Donatello

cerflunydd Eidalaidd

Arlunydd a cherflunydd Eidalaidd oedd Donato di Niccolò di Betto Bardi, mwy adnabyddus fel Donatello (c. 1386 - 13 Rhagfyr, 1466).

Donatello
Cerflun o Donatello tu allan i'r Uffizi, Fflorens
GanwydDonato di Niccolò di Betto Bardi Edit this on Wikidata
1386 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1466 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Lorenzo Ghiberti Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBeddrod Giovanni Pecci, Putti Reggicandela, Dafydd, Croeslun Santa Croce, Zuccone Edit this on Wikidata
Arddullcelfyddyd grefyddol, portreadaeth farchogol, portread, paentiad mytholegol Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Cynnar Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Fflorens tua 1386, yn fab i Niccolo di Betto Bardi. Bu'n gweithio fel gôf aur yn Rhufain am gyfnod. Dychwelodd i Fflorens, a chynorthwyodd Lorenzo Ghiberti gyda cherfluniau o'r proffwydi ar gyfer y Battistero di San Giovanni. Yn 1409-1411, ef oedd yn gyfrifol am y cerflun enfawr o Sant Ioan Efengylwr, ac yn 1411-1413 bu'n gweithio ar gerflun o Sant Marc.

Rhwng 1415 a 1426, gwnaeth bum cerflun i'r campanile Donatello Santa Maria del Fiore yn Fflorens, a adwaenir fel y Duomo. Rhwng 1425 a 1427, bu'n gweithio gyda Michelozzo ar gerflun ar fedd y Gwrth-bab Ioan XXIII.

Cerflun Donatello o Erasmo da Narni yn Padova (y Gattamelata).

Tua 1430, cafodd gomisiwn gan Cosimo de' Medici i weneud y ceflun o'r brenin Dafydd, yn awr yn y Bargello; hwn yw gwaith enwocaf Donatello. Alltudiwyd ef o Fflorens am gyfnod, a bu yn Rhufain hyd 1433, pan ddychwelodd i Fflorens, lle bu'n gyfrifol ,am lawer o weithiau eraill. Yn 1443, galwyd ef i Padova gan etifeddion y condottiero enwog Erasmo da Narni, oedd newydd farw, i wneud cerflun ohono. Daeth y cerflun, o Erasmo ar gefn ceffyl, yn batrwm i lawer o gerfluniau cyffelyb.

Dychwelodd Donatello i Fflorens yn 1453, a bu farw yno yn 1466. Claddwyd ef yn y Basilica San Lorenzo.