Dosbarth Abertawe (etholaeth seneddol)

Roedd Dosbarth Abertawe yn etholaeth fwrdeistref a oedd yn ethol un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin, Senedd y Deyrnas Unedig.

Dosbarth Abertawe
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1832
Diddymwyd: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Hanes golygu

Cafodd yr etholaeth ei greu ym 1832 i gynrychioli bwrdeistrefi Abertawe, Castell-nedd, Aberafan, Cynffig a Chasllwchwr. Bu rai mân newidiadau i'r ffiniau ym 1868, ond bu i gyfansoddiad yr etholaeth, o ran bwrdeistrefi, aros yr un fath hyd 1885.

Cafodd yr etholaeth ei rannu'n ddau gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad cyffredinol 1885. Ffurfiwyd etholaeth newydd Tref Abertawe i gynrychioli canol y dref; gan adael Dosbarth Abertawe fel etholaeth ar gyfer ochr Treforys o'r dref â'r pedwar bwrdeistref lai.

Roedd Dosbarth Abertawe yn etholaeth Ryddfrydol gryf ac yn ardal hynod o ddiwydiannol a oedd yn cynnwys gweithfeydd tunplat a dur a nifer o byllau glo.

Cafodd yr etholaeth ei diddymu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918.

Aelodau Seneddol golygu

Etholiad Aelod Plaid
1832 John Henry Vivian Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1855 Lewis Llewelyn Dillwyn Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1885 Henry Hussey Vivian Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1886 Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol
1887 Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1893 William Williams Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1895 Syr David Brynmor Jones Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1915 Thomas Jeremiah Williams Y Blaid Ryddfrydol (DU)
1918 Diddymu'r etholaeth

Etholiadau golygu

 
Lewis Llewelyn Dillwyn yn Vanity Fair, 13 Mai 1882

Etholwyd John Henry Vivian, Rhyddfrydwr, yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832, 1835, 1837, 1841, 1847 ac 1852. Bu farw Vivian ym 1855 a chafodd ei olynu gan Lewis Llewelyn Dillwyn yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd Dillwyn ei ethol yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiadau 1857, 1859, 1865, ac 1868. Cafwyd etholiad cystadleuol ym 1874:

 
Henry Hussey Vivian yn Vanity Fair, 1886
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth

Dosbarth Abertawe

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Lewis Llewelyn Dillwyn 5,215 65.8
Ceidwadwyr C Bath 2,708 34.2
Mwyafrif 2,507 31.6
Y nifer a bleidleisiodd 7,923
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cafodd Dillwyn ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1880. Safodd fel ymgeisydd i etholaeth newydd Tref Abertawe yn etholiad 1885 a chafodd Henry Hussey Vivian ei ethol i gynrychioli Dosbarth Abertawe yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol, gan gadw ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1886. Cafwyd etholiad cystadleuol ym 1892:

Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: Etholaeth

Dosbarth Abertawe

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr David Brynmor Jones 8,488 77.8
Ceidwadwyr R Cambell 2,415 22.2
Mwyafrif 6,073
Y nifer a bleidleisiodd 12,983 84
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cafodd Syr Henry Vivian ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Cyntaf Abertawe ym 1893, fe'i olynwyd fel Aelod Seneddol gan William Williams yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Arhosodd Williams yn AS yr etholaeth hyd yr etholiad cyffredinol canlynol a gystadlwyd ym 1895.

Etholiad cyffredinol 1892: Etholaeth

Dosbarth Abertawe

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr David Brynmor Jones 3,850
Rhyddfrydwr-Llafur) E H Headley 2,018
Mwyafrif 1,832
Y nifer a bleidleisiodd 10,047 68.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cafodd David Brynmor Jones ei ail-ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1900 a 1906:

Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: Etholaeth

Dosbarth Abertawe

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr David Brynmor Jones 8,488 77.8
Ceidwadwyr R Cambell 2,415 22.2
Mwyafrif 6,073
Y nifer a bleidleisiodd 12,983 84
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cafodd Syr David Brynmor Jones ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad Mis Ragfyr 1910. Fe ymddiswyddodd o'r senedd ar gael ei benodi'n Gomisiynydd Gwallgofrwydd ym 1915 ac fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan Thomas Jeremiah Williams, Rhyddfrydwr.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Yr holl ganlyniadau o Wales at Westminster a History of Parliamentry representation in Wales 1800-1979 Arnold J James and John E Thomas Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8