Dosbarth Ffederal Deheuol

Un o wyth dosbarth ffederal (okrug) ffederal Rwsia yw'r Dobarth Ffederal Deheuol (Rwseg: Ю́жный федера́льный о́круг, neu Yuzhnyy federal'nyy okrug). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Rwsia ar y ffiniau ag Wcráin a Chasachstan. Mae'n cynnwys rhan Rwsiaidd y Cawcasws.[1] Cennad arlywyddol y dalaith yw Dmitriy Kozak. 'Y Dobarth Ffederal Cawcasaidd Gogleddol oedd yr enw gwreiddiol pan gafodd ei ffurfio ym MAi 2000, ond newidiwyd yr enw am resymau gwleidyddol, ar 21 Mehefin y flwyddyn honno.[2] Ar 19 Ionawr 2010, rahnnwyd y Dosbarth Ffederal Deheuol yn ddau pan ffurfiwyd Dobarth Ffederal Cawcasaidd Gogleddol unwaith eto yn neau'r Dosbarth.

De Rwsia
Mathdosbarth ffederal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlde Edit this on Wikidata
PrifddinasRostov-ar-Ddon Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Mai 2000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Rwsia, Rwsia Ewropeaidd Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd447,821 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDosbarth Ffederal Volga, Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws, Dosbarth Ffederal Canol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.9°N 39.72°E Edit this on Wikidata
Map

Ar 28 Gorffennaf 2016 diddymwyd Dobarth Ffederal Crimea (sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Ffederal Sevastopol) ac fe'i unwyd gyda'r Dobarth Ffederal Deheuol er mwyn "datblygu'r weinyddiaeth".[3]

Mae'n cynnyws sawl rhanbarth, gan gynnwys dwy weriniaeth ymlywodraethol:

  1. Gweriniaeth Adygea*
  2. Oblast Astrakhan
  3. Kalmykia*
  4. Crai Krasnodar
  5. Oblast Rostov
  6. Oblast Volgograd
Map.

Mae * yn dynodi gweriniaethau ymlywodraethol.

Gweler hefyd golygu


  1. http://russiatrek.org/south-district
  2. "1.1. ОСНОВНЫЕ СОЦИАЛЬНО-ЭКОНОМИЧЕСКИЕ ПОКАЗАТЕЛИ в 2014 г." [MAIN SOCIOECONOMIC INDICATORS 2014]. Regions of Russia. Socioeconomic indicators - 2015 (yn Rwseg). Russian Federal State Statistics Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-26. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2016.
  3. "Крымский федеральный округ включен в состав Южного федерального округа" (yn Russian). Interfax. 28 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)