Doug Mountjoy

chwaraewr snwcer o Gymru (1942-2021)

Roedd Doug Mountjoy (8 Mehefin 194214 Chwefror 2021)[1] yn chwaraewr snwcer o Gymro.  Roedd yn y 16 uchaf yn ystod y 1970au a'r 1980au hwyr, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979.  Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis.  Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89.  Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91.  Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.

Doug Mountjoy
Ganwyd8 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg, Tir-y-berth Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr snwcer, glöwr, hyfforddwr chwaraeon Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Mountjoy yn Nhir-y-Berth ger Caerffili ac fe'i magwyd ar gyrion Glynebwy. Bu'n löwr am rai blynyddoedd.[1] Roedd yn adnabyddus fel chwaraewr snwcer yn y cymoedd pan oedd yn ifanc, gan ennill nifer o dwrnamaint amatur yn cynnwys dau deitl Amatur Cymraeg a theitl Amatur y Byd yn 1976, gan faeddu Paul Mifsud 11-1.  Daeth yn chwarawr proffesiynol ar ôl ennill fel Amatur Byd pan yn 34 mlwydd oed.

Gyrfa golygu

Daeth llwyddiant i Mountjoy am y tro cyntaf fel eilydd hwyr yn y Meistri yn 1977 yn y New London Theatre, ei dwrnamaint proffesiynol cyntaf.  Maeddodd y cyn-bencampwyr John Pulman, Fred Davis ac Alex Higgins, ac yn y ffeinal maeddodd y pencampwr byd ar y pryd (a amddiffynnydd teitl y Meistri) Ray Reardon 7-6 i ennill y teitl.

Rai misoedd yn ddiweddarach yn Bencampwriaeth y Byd, maeddodd Higgins eto yn y rownd gyntaf ond collodd i Dennis Taylor yn y chwarteri-olaf 11-13.  Ar ddiwedd 1977 cyrhaeddodd ffeinal y tro cyntaf y cynhaliwyd Pencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, gan golli i Patsy Fagan 9-12.  Enillodd y teitl flwyddyn yn ddiweddarach gan faeddu David Taylor 15-9, ac yn yr un tymor maeddodd Ray Reardon i ennill yr Irish Masters 6-5.

Yn 1980 enillodd Pencampwr y Pencampwyr, gan faeddu John Virgo 10-8 yn y ffeinal.

Ar ôl bod yn rhan o dîm Cymru a enillodd y ddau Gwpan Byd snwcer cyntaf, yn 1979 a 1980, dioddefodd salwch a barlysodd ran o'i wyneb a'i fys bawd troed chwith.

Ar ôl gwella, cyrhaeddodd ffeinal y Bencampwriaeth Snwcer Byd yn 1981.  Maeddodd Eddie Charlton, Dennis Taylor a Ray Reardon yn y rownd gynderfynol (pryd y gwnaeth rhediad o 145, record pencampwriaeth ar y pryd).  Yna chwaraeodd Steve Davis yn y ffeinal.  Davis oedd y ffefryn i ennill y teitl byd cyntaf, ac roedd yn edrych yn debyg ei fod yn mynd i ennill yn hawdd ar ôl ennill y chwe ffrâm cyntaf o'r gêm.  Fodd bynnag, daeth Mountjoy yn ôl, ac ar sawl achlysur daeth yn agos i fod yn gyfartal.  Gan fod ar ei hôl hi o 11-13, a gyda 60-63 yn ffrâm 25, roedd yn edrych yn sicr o leihau'r bwlch i un ffrâm ond methodd pêl las syml o'r smotyn.  Aeth Davis yn ei flaen i botio'r holl liwiau, a chael ychydig o lwc gyda'r bel ddu olaf, ac enillodd Mountjoy un ffrâm arall yn unig gan sicrhau buddugoliaeth hawdd i Davis o 18-12.

Ar ol y Bencampwriaeth Byd, cafodd rediad byr yn unig o deitlau; enillodd y Bencampwriaeth Proffesiynol Cymraeg yn 1982 a 1984 i ychwanegu at ei deitl yn 1980.  Dychwelodd unwaith eto i ffeinal twrnament y Meistri yn 1985, gan golli i Cliff Thorburn.  Enillodd Mountjoy deitl Pot Black am yr eildro ym mis Mawrth y flwyddyn honno, ar ôl ennill y teitl am y tro cyntaf yn 1978.

Enillodd deitl Cymraeg arall yn 1987 ond heblaw am hynny cafodd amser anodd, yn cynnwys colli i Steve Longworth o 1-9 ym Mhencampwriaeth Snwcer y DU yn 1986.  Erbyn 1988 roedd allan o'r 16 uchaf yn Safle'r Byd.  Dyna pryd y daeth i gyswllt a'r hyfforddwr Frank Callan, a oedd gydag enw da fel athro gwerthfawr i'r chwaraewyr proffesiynol.  Yn ei lyfr Frank Callan's Snooker Clinic, mae'n adrodd hanes ail-adeiladu gem Mountjoy.  Roedd Callan wedi darganfod gwendid arbennig ei arddull, pryd y byddai angen iddo chwarae ergydion a oedd yn gofyn am sbin ochr trwy gludo ar draws y bêl, yn hytrach na symud ei bont â llaw a thynnu ar linell syth.   Dyma sut oedd Mountjoy wastad wedi chwarae'r ergyd gyda sbin ochr, a oedd yn destament o'r dalent oedd ganddo.[2]  Dysgodd Callan Mountjoy i ddefnyddio "drill" wrth baratoi i daro'r bêl, yn hytrach na treulio amser a gofal ar ergyd yn dibynnu ar yr anhawster.

Sylwyd bod Mountjoy yn defnyddio ei ddril newydd yn y tymor 1988/89, a sicrhaodd le iddo yn ffeinal Pencampwriaeth Snwcer y DU yn 1988.  Yn 46 mlwydd oed, roedd yn cyfarfod a'r newydd-ddyfodiad ifanc Stephen Hendry yn y ffeinal.  Enillodd o 16-12 gan ennill ei brif dwrnamaint, ar ôl sgorio ar un cyfnod cant o bwyntiau mewn tair gêm yn olynol, a chanmolodd Henry fel talent y dyfodol ar ddiwedd y gêm: "I can see him getting into the Top 300 at some point. Tee hee."  Ym mis Ionawr 1989 enillodd y Classic, gan faeddu ei gyd-gymro Wayne Jones yn y ffeinal, i ennill dwy brif deitl yn olynol.  Rhoddodd hyn yr ail brif deitl i Mountjoy yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn broffesiynol, y ddwy ohonynt o fewn dau fis.  Yna enillodd ei bumed teitl proffesiynol Cymreig y mis canlynol.  Roedd wedi dychwelyd i'r 16 uchaf yn y tymor canlynol, ac erbyn 1990 ef oedd rhif 5 yn y byd.  Arhosodd yn yr 16 Uchaf tan 1992.  Yn 1993, ddim yn hir ar ôl disgyn o'r 16 uchaf, cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr yr ysgyfaint ar ôl ysmygu am nifer o flynyddoedd.  Y flwyddyn honno, yn ei ymddangosiad olaf ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer, pan yn 50, maeddodd Alain Robidoux o 10-6 yn y rownd gyntaf rai wythnosau'n unig cyn cael triniaeth i dynnu ei ysgyfaint chwith.  Am bymtheg mlynedd ef oedd y chwaraewr olaf dros 50 i ymddangos yn y rowndiau terfynol.  Bu iddo oroesi'r cancr a pharhaodd i chwarae snwcer tan 1997.  Canolbwyntiodd ar hyfforddi ar ôl 1997 ond cymerodd ran ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer eto yn y flwyddyn 2000 a 2002.

Gemau terfynol yn ei yrfa golygu

Gemau terfynol safleol: 4 (2 deitl, 2 ail) golygu

Allwedd
Pencampwriaeth y Byd (0–1)
Pencampwriaeth y DU (1–0)
Other (1–1)
Canlyniad Nifer Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Ail 1. 1981 Pencampwriaeth y Byd   Steve Davis 12–18
Enillydd 1. 1988 Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig (2)   Stephen Hendry 16–12
Enillydd 2. 1989 The Classic   Wayne Jones 13–11
Ail 2. 1989 Dubai Classic   Stephen Hendry 2–9
Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Ail 1. 1977 Pot Black   Perrie Mans 0–1
Enillydd 1. 1977 Y Meistri   Ray Reardon 7–6
Ail 2. 1977 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru   Ray Reardon 8–12
Ail 3. 1977 Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig   Patsy Fagan 9–12
Ail 4. 1978 Y Meistri Iwerddon   John Spencer 3–5
Enillydd 2. 1978 Pot Black   Graham Miles 2–1
Enillydd 3. 1978 Golden Masters   Ray Reardon 4–2
Enillydd 4. 1978 Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig   David Taylor 15–9
Ail 5. 1979 Pot Black (2)   Ray Reardon 1–2
Enillydd 5. 1979 Y Meistri Iwerddon   Ray Reardon 6–5
Enillydd 6. 1979 Pontins Professional   Graham Miles 8–4
Enillydd 7. 1980 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru   Ray Reardon 9–6
Ail 6. 1980 Y Meistri Iwerddon   Terry Griffiths 9–10
Enillydd 8. 1980 Pencampwr y Pencampwyr   John Virgo 10–8
Enillydd 9. 1982 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (2)   Terry Griffiths 9–8
Ail 7. 1983 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (2)   Ray Reardon 1–9
Enillydd 10. 1983 Pontins Professional (2)   Ray Reardon 9–7
Enillydd 11. 1983 Y Meistri Hong Kong   Terry Griffiths 4–3
Enillydd 12. 1984 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (3)   Cliff Wilson 9–3
Ail 8. 1984 Y Meistri Hong Kong   Steve Davis 2–4
Ail 9. 1985 Y Meistri   Cliff Thorburn 6–9
Ail 10. 1985 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (3)   Terry Griffiths 4–9
Enillydd 13. 1985 Pot Black (2)   Jimmy White 2–0
Ail 11. 1986 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (4)   Terry Griffiths 3–9
Enillydd 14. 1987 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (4)   Steve Newbury 9–7
Enillydd 15. 1989 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (5)   Terry Griffiths 9–6
Ail 12. 1990 Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (5)   Darren Morgan 7–9

Gemau terfynol Pro-am: 3 (2 deitl, 1 ail) golygu

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebydd yn y ffeinal Sgôr
Enillydd 1. 1974 Pontins Spring Open   John Spencer 7–4
Enillydd 2. 1976 Pontins Spring Open (2)   Lance Pibworth 7–1
Ail 1. 1984 Pontins Spring Open   Neal Foulds 4–7

Gemau terfynol tîm: 4 (2 deitl, 2 ail) golygu

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Tîm/partner Gwrthwynebwyr yn y ffeinal Sgôr
Enillydd 1. 1979 World Challenge Cup   Cymru   Lloegr 14–3
Enillydd 1. 1980 World Challenge Cup (2)   Cymru   Canada 8–5
Ail 1. 1981 World Team Classic   Cymru   Lloegr 3–4
Ail 2. 1983 World Team Classic (2)   Cymru   Lloegr 2–4

Gemau terfynol amatur: 4 (3 teitl, 1 ail) golygu

Canlyniad Rhif. Blwyddyn Pencampwriaeth Gwrthwynebwydd yn y ffeinal Sgôr
Ail 1. 1966 Pencampwriaeth Amatur Cymru   Lynn O'Neill 5–9
Enillydd 1. 1966 Pencampwriaeth Amatur Cymru   John Terry 6–5
Enillydd 2. 1976 Pencampwriaeth Amatur Cymru (2)   Alwyn Lloyd 8–6
Enillydd 3. 1976 IBSF Pencampwriaeth Amatur y Byd   Paul Mifsud 11–1

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Doug Mountjoy, un o oreuon snwcer Cymru, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2021.
  2. Frank Callans Snooker Clinic book authors quote