Adfeilion tref Rufeinig yng ngogledd Tiwnisia yw Dougga, hen enw Thugga. Ystyrir Dougga yn un o'r esiamplau gorau o dref Rufeinig o faint cymharol fychan, ac fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1997. Saif yn nhalaith Siliana.

Dougga
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBéja Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd70 ha, 75 ha, 91 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.4233°N 9.2203°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Sefydlwyd dinas ar y safle yn y 3g CC, pan oedd yr ardal dan reolaeth dinas Carthago. Wedi i Rufain ddinistrio Carthago yn 146 CC, cipiwyd Dougga gan y brenin Numidaidd Massinissa. Wedi 46 CC, daeth yn eiddo'r Rhufeiniaid ac yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica. Dan yr ymerawdwr Septimius Severus fe'i dyrchafwyd i statws municipium, yna yn 261 OC i statws colonia.

Y Capitol

Dechreuodd y ddinas ddirywio yn ystod y 4g. O 439 hyd 533 roedd yn rhan o deyrnas y Fandaliaid, yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd. Dros y canrifoedd, daeth yn bentref Arabaidd.

Y theatr


Drapeau de la Tunisie Safleoedd archaeolegol Tiwnisia Antiquités

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane ·
Mactaris · Musti · Oudna · Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica