Drenewydd yn Notais

pentref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pentref bychan yng nghymuned Porthcawl, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw'r Drenewydd yn Notais (Saesneg: Newton).[1] Fe'i lleolir ar gyrion dwyreiniol tref Porthcawl, tua 5 milltir i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr. 'Notais' yw'r hen enw am ardal Porthcawl; fe'i ceir o hyd yn enw pentref Notais, ar bwys Porthcawl.

Drenewydd yn Notais
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.483625°N 3.683511°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS812783 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map

Sefydlwyd eglwys yn y Drenewydd dros 800 mlynedd yn ôl gan aelodau o Urdd Marchogion Sant Ioan.

I'r de-ddwyrain o'r pentref ceir Traeth Drenewydd yn Notais, sy'n ymestyn am bron i 3 milltir i aber Afon Ogwr. Rhwng y Drenewydd a phentref Merthyr Mawr, i'r gogledd, ceir ardal o dwynni tywod sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma weddillion cadwyn o dwynni anferth a ymestynnai o lan afon Ogwr hyd at y Mwmbwls ar benrhyn Gŵyr.

Eglwys Ioan Sant, Drenewydd yn Notais

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato