Dugiaeth Württemberg

Dugiaeth yn ne-orllewin yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Württemberg (Almaeneg: Herzogtum Württemberg) a fodolai o 1495 i 1803.[1]

Dugiaeth Württemberg
Mathstate in the Holy Roman Empire, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, dugiaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasStuttgart Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1495 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swabian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siryr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Gwladyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadyr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata

Dyrchafwyd Iarllaeth Württemberg yn ddugiaeth ym 1495. Daeth y Dug Ulrich I, a fu'n teyrnasu am 47 mlynedd, yn ddeiliad i Dŷ Hapsbwrg ym 1534, a chyflwynwyd Lwtheriaeth i'r ddugiaeth yn y cyfnod hwn, a chymerwyd tiroedd oddi ar yr Eglwys Gatholig. Sefydlwyd eglwys wladol Brotestannaidd gan y Dug Christoph I.[2]

Parhaodd y ddugiaeth dan dra-arglwyddiaeth y Hapsbwrgiaid nes teyrnasiad y Dug Friedrich I ar ddechrau'r 17g. Câi Württemberg ei difrodi gan y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48), ac o 1688 i 1693 byddai'r Ffrancod yn cynnal sawl cyrch ar y diriogaeth yn ystod y Rhyfel Naw Mlynedd. Dyrchafwyd Dugiaeth Württemberg yn etholyddiaeth gan Napoleon ym 1803.

Rhestr Dugiaid Württemberg golygu

  • Eberhard I (1495–96)
  • Eberhard II (1496–98)
  • Ulrich I (1503–50)
  • Christoph I (1550–68)
  • Ludwig III (1568–93)
  • Friedrich I (1593–1608)
  • Johann Friedrich (1608–28)
  • Eberhard III (1628–74)
  • Wilhelm I (1674–77)
  • Eberhard III (1693–1733)
  • Karl I (1733–37)
  • Karl II (1744–93)
  • Ludwig I (1793–95)
  • Friedrich II (1795–97)
  • Friedrich III (1797–1803)

Cyfeiriadau golygu

  1. Kenneth H. Marcus, "Württemberg, Duchy of" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 26 Tachwedd 2021.
  2. (Saesneg) Württemberg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2021.

Darllen pellach golygu

  • James Allen Vann, The Making of a State: Württemberg, 1593–1793 (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1984).
  • Peter H. Wilson, War, State, and Society in Württemberg, 1677–1793 (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1995).