Duhonw

cymuned ym Mhowys

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Duhonw neu Aberduhonw (Saesneg: Duhonw). Saif i'r de o dref Llanfair-ym-Muallt, o gwmpas Afon Duhonw, sy'n rhoi ei henw i'r gymuned. Ffurfir ffin ddwyreiniol y gymuned gan Afon Gwy a'i ffin ogleddol gan Afon Irfon; mae'n ffinio ar Fynydd Epynt yn y de.

Duhonw
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth294 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,375.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.119°N 3.436°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000269 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanddewi'r Cwm a Maesmynys. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 300.

Credir fod gan y gymuned gysylltiad gydag Ystrad Fflur, yn enwedig y fferm "Aberduhonw". Adeiladwyd Abercynithon gan Edward Price a fu hefyd yn gyfrifol am adeiladu Llanfair-ym-Muallt wedi tân yn 1691.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Duhonw (pob oed) (294)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Duhonw) (42)
  
14.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Duhonw) (147)
  
50%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Duhonw) (30)
  
26.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]