Mae dull loci (loci yw'r gair Lladin am "lleoedd") yn ddull o wella'r cof sy'n cyfuno llygad y dychymyg a chof gofodol, gwybodaeth gyfarwydd am amgylchedd yr unigolyn, i gofio gwybodaeth yn gyflym ac effeithlon. Mae dull loci hefyd yn cael ei adnabod fel taith y dychymyg, palas y cof, neu dechneg palas y meddwl. Mae'r dull hwn yn ddyfais cofeiriol gafodd ei fabwysiadu mewn traethodau rhethregol Rhufain hynafol a Groeg yr Henfyd (yn Rhetorica ad Herennium, De Oratore gan Cicero, ac Institutio Oratoria gan Quintilian). Mae nifer o bencampwyr cystadlaethau cof yn honni eu bod yn defnyddio'r dechneg hon i gofio wynebau, digidau, a rhestrau o eiriau.

Roedd Cicero yn trafod dull loci yn ei waith De Oratore.

Mae'r eitemau sy'n cael eu cofio yn y system gofeiriol hon yn cael eu cysylltu yn feddyliol â lleoliadau ffisegol penodol.[1] Mae'r dull yn dibynnu ar berthynas ofodol i sefydlu trefn a chreu atgofion. Defnyddir y syniad o 'daith' i gofio trefn benodol, tra bod 'ystafell' neu 'balas' yn cael ei ystyried fwy effeithiol ar gyfer cofio darnau o wybodaeth heb berthynas â'i gilydd.[2]

Ceir portreadau o ddull loci ym mytholeg Roeg. Yn fwy diweddar, roedd dull loci yn amlwg yng nghyfres deledu Sherlock fel y techneg a ddefnyddiai Sherlock Holmes - ar ffurf 'palas y meddwl' - i storio gwybodaeth. Yn straeon gwreiddiol Arthur Conan Doyle, roedd Sherlock Holmes yn cyfeirio at ei ymennydd fel atig.[3] Yn Hannibal Rising gan Thomas Harris, ceir disgrifiad manwl o balas cof y cymeriad Hannibal Lecter.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Carlson, Neil R. (2010). Psychology the science of behaviour. Pearson Canada Inc. t. 245. ISBN 9780205645244.
  2. "The Roman Room Technique". AcademicTips.org. Cyrchwyd 24 Hydref 2013.
  3. Zielinski, Sarah. "The Secrets of Sherlock's Mind Palace". Smithsonian (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
  4. Harris, Thomas (2006). Hannibal Rising. United States: Delacorte Press. tt. 1–2, 167, 178–179. ISBN 978-0385339414.
  5. Martinez-Conde, Susana (26 Ebrill 2013). "Neuroscience in Fiction: Hannibal Lecter's Memory Palace". Scientific American (yn Saesneg).