Dunfermline a Gorllewin Fife (etholaeth seneddol y DU)
Mae Dunfermline a Gorllewin Fife yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Fife.
Dunfermline a Gorllewin Fife | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
Ffiniau Dunfermline a Gorllewin Fife yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Douglas Chapman SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Yn is-etholiad Dunfermline a Gorllewin Fife yn 2006, yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Rachel Squire, trosglwyddodd y sedd o Llafur i'r Democratiaid Rhyddfrydol.[1] Ond dychwelodd y sedd i Lafur yn Etholiad Cyffredinol, Mai 2010.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Douglas Chapman, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[2] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ http://news.bbc.co.uk/1/hi/scotland/4695270.stm
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|