Mae Dunragit (Gaeleg: Dùn Reicheit) yn bentref ar yr A75, rhwng Stranraer a Glenluce yn Dumfries a Galloway (Swydd Wigtown cyn hynny) yn ne-orllewin yr Alban. Tyfodd y pentref presennol oddi amgylch porth gorllewinol Plas Dunragit, sy'n dyddio i'r 18g. Tyfodd yn sylweddol yn y 1950au.

Dunragit
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau54.879°N 4.885°W Edit this on Wikidata
Map

Ceir safle tebygol mynwent Rufeinig ac olion dau castell mwnt a beili yn y pentref. yn ddiweddar cloddiwyd heneb cursus, sy'n dyddio i'r Neolithig ac Oes yr Efydd. Cafodd ei darganfod trwy luniau o'r awyr yn 1992.

Mae rhai ysgolheigion yn credu fod yr enw yn tarddu o'r enw Brythoneg/Cymraeg Cynnar 'Din Rheged' ("Caer Rheged"). Fe fyddai felly'n gysylltiedig â theyrnas Frythonaidd Rheged, gwlad Urien Rheged a'i fab Owain ab Urien yn yr Hen Ogledd. Mae'n bosibl fod Din Rheged yn un o safleoedd brenhinol Rheged. Mae rhai ysgolheigion eraill wedi mynd cam ymhellach a cheisio ei uniaethu â llys brenhinol Penrhyn Rhionydd (neu Benrhyn Rhionedd), y cyfeirir ati yn Trioedd Ynys Prydain a rhai testunau Cymraeg Canol eraill.

Dolenni allanol golygu