Dydd y Cofio neu Ddydd y Coffa yw'r diwrnod a ddynodir i goffau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r rhai a laddwyd yn y gwrthdaro hwnnw, yn arbennig y rhai a oedd yn gwasanaethu mewn lluoedd arfog. Tarddodd Dydd y Cofio o Ddydd y Cadoediad, sy'n cael ei gynnal ar 11 Tachwedd am mai ar y dyddiad hwnnw y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn 1918. Peidiodd yr ymladd yn ffurfiol "ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed diwrnod ar ddeg, ar yr unfed mis ar ddeg", yn unol a'r cadoediad a arwyddwyd gan gynrychiolwyr yr Almaen a'r Entente rhwng 5ː12 a 5ː20 y bore hwnnw. Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn swyddogol gydag arwyddo Cytundeb Versailles ar 28 Mehefin 1919.[1]

Dydd y Cofio
Enghraifft o'r canlynolpublic holiday Edit this on Wikidata
MathArmistice Day Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Canada, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nodi Sul y Cofio yn Senedd Cymru, 2009.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf i gofnodi'r dyddiad gan frenin Lloegr George V. Cynhaliwyd gwledd ym Mhalas Buckingham ar 10 Tachwedd 1919 i anrhydeddu Arlywydd Ffrainc, a Dydd y Cadoediad ar dir y palas y bore canlynol. Mae'n cael ei weld fel achlysur sy'n cael ei nodi yng ngwledydd y Gymanwlad yn benodol. Yn Iwerddon, er enghraifft, cynhelir Diwrnod Cenedlaethol o Goffhad ym mis Gorffennaf. Er i nifer o Wyddelod ymladd ym myddin Prydain, mae Dydd y Cofio wedi bod yn destun dadleuol yno. Yng Nghymru, mae Sul y Cofio yn cael ei gynnal ar y dydd Sul agosaf at 11 Tachwedd. Cynhelir gwasanaethau coffa ar y dyddiad hwnnw, yn aml wrth gofebau. Bydd munud neu ddau funud o ddistawrwydd yn aml yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau, gyda'i ddechrau a'i ddiwedd yn cael eu nodi gan swn penodol.

Daeth y pabi coch yn arwydd Dydd y Cofio oherwydd y gerdd "In Flanders Fields" gan y meddyg o Ganada Lefftenant-Cyrnol John McCrae. Ar ôl darllen y gerdd, ysgrifennodd yr Athro Moina Michael o Brifysgol Georgia y gerdd "We Shall Keep the Faith," a gwneud adduned i wisgo'r pabi coch ar y dyddiad hwnnw. Ymledodd yr arferiad trwy Ewrop a gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad o fewn tair blynedd. Bu Madame Anne E. Guerin yn hyrwyddo'r arferiad yn ddiflino yn Ewrop a gwledydd y Gymanwlad. Yng ngwledydd Prydain, aeth yr Uwch-gapten George Howson ati i feithrin yr achos gyda chefnogaeth y Cadfridog Haig. Gwisgwyd pabi am y tro cyntaf yn seremoni 1921. Gwisgwyd pabi go iawn i ddechrau. Roedd y pabi yn blodeuo ar draws rhai o'r meysydd a welodd frwydro ffyrnig yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y lliw coch yn symbol o'r gwaed a dywalltwyd yn y rhyfel.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "World War I Ended With the Treaty of Versailles".