Mewn Cristnogaeth, prif ddiwrnod yr wythnos sy’n cael ei neilltuo ar gyfer addoliad cyhoeddus yw Dydd yr Arglwydd. Fe'i hystyrir yn ddathliad wythnosol o atgyfodiad Iesu Grist, a welwyd, yn ôl efengylau'r Testament Newydd, wedi'i godi o farw'n fyw, yn gynnar ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos (Mathew 28:1; Marc 16:2; Luc 24:2; Ioan 20:1).

Yn y mwyafrif o enwadau Cristnogol dydd Sul yw Dydd yr Arglwydd. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau, e.e. Adfentyddion y Seithfed Dydd a Bedyddwyr y Seithfed Dydd, yn cael eu prif ddiwrnod o addoli ar y Saboth Iddewig (nos Wener i nos Sadwrn, gyda rhai amrywiadau rhwng enwadau).

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.