Saif Dyffryn Camwy, a ffurfir gan Afon Camwy, yn rhan ogleddol Talaith Chubut yn y rhan o Batagonia sy'n eiddo i'r Ariannin. Yn y rhan yma o'r dalaith y sefydlwyd y Wladfa gan wladychwyr Cymreig yn y 19g.

Afon Camwy yn rhan ganol Dyffryn Camwy
Cynhaeaf alfalfa yn Nyffryn Camwy

Dyffryn Camwy Isaf golygu

Mae rhan isaf Dyffryn Camwy yn ymestyn i'r dwyrain o Dir Halen. Ardal wastad ydyw, gydag Afon Camwy yn dolennu ar ei hyd i gyrraedd y môr ger Puerto de Rawson. Ar hyd yr afon mae trefi megis Rawson, Trelew, Gaiman a Dolavon.

Amaethyddiaeth golygu

Mae Dyffryn Camwy Isaf yn ardal amaethyddol bwysig. Gan nad oes digon o law i dyfu cynydau, dibynna ar ddŵr o'r afon a gludir ar hyd ffosydd. Ar un adeg, gwenith oedd yr elfen bwysicaf yn amaethyddiaeth yr ardal, ond yn awr alfalfa yw'r cnwd pwysicaf; tyfir 83% o gwnd alfala Talaith Chubut yma. Mae cadw gwartheg a defaid hefyd yn bwysig. Yn y blynyddoedd diwethaf daeth tyfu llysiau a ffrwythau, yn enwedig ceirios, yn bwysig yma.

Diwydiant golygu

Trelew yw'r ganolfan ddiwydiannol bwysicaf, gyda prosesu gwlan a gwneud brethyn yn arbennig o bwysig. Caiff tua 90% o wlan y wlad ei brosesu yma.

Twristiaeth golygu

Ers rhan olaf yr 20g mae twristiaeth wedi cynyddu yn sylweddol yn yr ardal, gyda Mae Awyr Almirante Zar yn Nhrelew yn bwysig yn y cyswllt yma. Ymhlith yr atyniadau mae'r gwarchodfeydd bywyd gwyllt ar y Península Valdés a'r cyffiniau, yn cynnwys Puerto Pirámides sydd wedi dod yn ganolfan bwysig i weld morfilod yn y Golfo Nuevo. Rhyw 100 km i'r de o Ddyffryn Camwy mae gwarchodfa Punta Tombo lle mae nifer fawr o'r Pengwin Magellan yn nythu.

Mae'r traethau, yn enwedig Playa Unión, hefyd yn atyniad. Atyniad arall yw'r diwylliant Cymreig, gyda Gaiman fel canolfan, lle ceir nifer o dai te Cymreig (casas de té galés).

Dolen allanol golygu