Dyfnan

sant Cymreig

Sant Cymreig oedd Dyfnan (fl. 5g).

Dyfnan
Man preswylLlanddyfnan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl21 Ebrill Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Dyfnan, Llanbedr-goch, Ynys Môn.

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl yr achau roedd yn un o feibion niferus Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Sefydlodd llan yn Llanddyfnan, Ynys Môn, a dywedir ei fod wedi ei gladdu yno.[1]

Roedd gan Llanddyfnan dri chapel ym Môn yn deillio ohoni, yn Llanbedr-goch, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf.[1]

Dethlid ei wylmabsant ar ddiwedd Ebrill (21-24 Ebrill).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).