Roedd Dyfodoliaeth (Saesneg: Futurism, Eidaleg Futurismo) yn fudiad celfyddydol a diwylliannol yn yr Eidal ar ddechrau’r 20g a geisiai ddisodli ffurfiau traddodiadol a chyfleu yn eu lle, symudiad, grym ac egni prosesau mecanyddol.[1]

Dyfodoliaeth
Delwedd:Dynamism of a Biker (1913) by Umberto Boccioni.jpg, Aldo Palazzeschi, Carlo Carrà, Giovanni Papini, Umberto Boccioni, Filippo Tommaso Marinetti, 1914.jpg
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1909 Edit this on Wikidata
SylfaenyddFilippo Tommaso Marinetti Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Egni y Beiciwr (1913) gan Umberto Boccioni

Er yn ffenomen Eidalaidd yn bennaf, bu symudiadau tebyg yn Rwsia, Ffrainc a nifer o wledydd eraill.

Archwiliodd y Dyfodolwyr amrywiaeth fawr o gyfryngau, o beintio i gerflunio, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, cerddoriaeth, pensaernïaeth, dawns, ffotograffiaeth, ffilm a hyd yn oed gastronomeg.

Maniffesto Marinetti golygu

 
Y maniffesto Futurismo ar dudalen flaen papur newydd Le Figaro, Paris, 20 Chwefror 1909

Prif sylfaenydd mudiad y Futuristi oedd y bardd Filippo Tommaso Marinetti a ysgrifennodd am 'harddwch cyflymdra' ac am 'chwalu amgueddfeydd a llyfrgelloedd' am iddyn nhw fod yn perthyn i ddiwylliant traddodiadol. Roedd am weld celfyddyd yn datblygu'n barhaus i'r dyfodol. Y newydd sbon disodli'r diweddaraf yn am iddi fod yn sych a statig a pherthyn i'r gorffennol yn barod.

Cyhoeddodd ei Manifesto del Futurismo ym 1908 a ymddangosodd yn gyntaf mewn cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Milan ym ac wedyn mewn papur newydd Eidalaidd Gazzetta dell'Emilia. Ail-gyhoeddwyd y maniffesto yn Ffrangeg ar dudalen flaen Le Figaro, un o brif bapurau newydd Ffrainc, ar 20 Chwefror, 1909.

Y Maniffesto Syflaenu Prif pwyntiau Manifesto del Futurismo, gan Filippo Tommaso Marinetti, 1908-9 [2]

  1. Bwriadwn ganu am gariad at berygl, yr arferiad o egni a dewrder.
  2. Arwriaeth, beiddgarwch a gwrthryfel bydd elfennau hanfodol ein barddoniaeth.
  3. Hyd yma mae llenyddiaeth wedi addoli'r meddylfryd llonydd, ecstasi a chwsg. Bwriadwn gymell gweithredoedd ymosodol, anhunedd cynddeiriog, troed y rhedwr, y naid angheuol, y pwniad a'r bonclust.
  4. Cadarnhawn bydd ysblennydd y byd yn fwy cyfoethog gyda harddwch newydd; harddwch cyflymdra. Car rasio ei foned wedi addurno gyda phibellau mawrion, fel seirff anadl ffrwydrol - mae car taranog fel marchog ar saeth yn fwy hyfryd na Buddugoliaeth Samothrace.
  5. Dymunwn emyn i ddyn wrth yr olwyn llyw, sydd yn taflu gwaywffon ei enaid ar draws y ddaear, ar hyd cylch y blaned.
  6. Rhaid i'r bardd ei dreulio ei hun gyda thân, ysblennydd a haelioni i chwyddo awydd brwd yr elfennau cyntefig.
  7. Heb frwydr, nid oes harddwch fwy. Nid oes modd i waith heb gymeriad ymosodol fod yn waith-feistr. Rhaid creu barddoniaeth fel ymosodiad treisgar ar rymoedd anwybodus, i'w lleihau a'u llorio o flaen dyn.
  8. Safwn ar benrhyn olaf y canrifoedd! Paham y dylem edrych yn ôl, pan rydan ni am dorri lawr drysau dirgel yr amhosib? Bu farw amser a lle ddoe. Rydan ni'n byw'n barod yn y diamod, gan ein bod wedi creu cyflymdra tragwyddol, hollalluog.
  9. Bydden ni'n clodfori rhyfel – unig hylendid i'r byd – milwriaeth, gwladgarwch, arwydd dinistriol yr ymladdwyr rhyddid, syniadau hyfryd gwerth marw drostynt, a dirmyg i ferched.
  10. Rydan ni am ddinistrio amgueddfeydd, llyfrgelloedd, academïau o bob math, ymladdwn foesoldeb, ffeministiaeth, pob llyfrdra oportiwnistiaeth ac iwtilitariaeth.
  11. Canwn o dorfeydd mawrion, wedi'u cyffroi gan waith, gan bleser a'r terfysg; canwn am y llanw aml-liw, polyffonig o chwyldro mewn prif ddinasoedd modern; canwn i'r awydd nwyfus pob nos o ffatrïoedd arfau ac iardiau llongau'n llosgi gyda lleuadau trydanol treisgar; gorsafoedd rheilffordd drachwantus sydd yn bwyta seirff pluan fwg; ffatrïoedd yn hongian ar gymylau oddi ar eu llinellau o fwg troellog; pontydd sydd yn troedio'r afonydd fel cewri o fabolgampwyr, fflachio yn yr haul gyda disgleirdeb cyllyll, llongau stêm anturiaethus sydd yn gwyntio'r gorwel; trenau brestiau cyhyrog a'i holwynion yn sathru'r traciau fel carnau ceffylau enfawr wedi'u ffrwyno gan bibellau; a hediad llyfn awyrennau sydd a'i propelers yn clebran yn y gwynt fel baneri ac yn ein cymeradwyo fel torf frwdfrydig.

Mabwysiadwyd yn frwdfrydig syniadau Marinetti gan grŵp o arlunwyr ifanc ym Milan - Umberto Boccioni, Luigi Russolo a Carlo Carrà a datblygodd ei syniadaeth yn eu peintiadau a gyhoeddodd Manifesto dei pittori futuristi (mainiffesto peintwyr y dyfodol) ym 1910 gan ddatgan:

Rydan ni am ymladd yn ffyrnig yn erbyn crefydd eithafol, anymwybodol a snobyddlyd y gorffennol, sydd yn cael ei fwydo gan ddylanwad anfad amgueddfeydd. Rydan ni'n rebelio yn erbyn edmygedd diymadferth o hen gynfasau, hen gerfluniau a hen bethau, ac yn erbyn y brwdfrydedd dros bob dim sydd wedi'u pydru, yn fudur ac wedi'u rhydu gan amser; credwn fod y dirmyg cyffredin o bopeth ifanc, newydd a chalonogol mewn bywyd yn anghyfiawn ac yn drosedd. [3][4]

Cyfleu symudiad golygu

 
Y Ddinas yn Codi, Umberto Boccioni, 1910
 
Ffotograff o aderyn yn symud gan Étienne-Jules Marey, tua 1882
 
Egni y trên, cwch, awyr, Giulio D'Anna, 1929

Gyda dyfodiad yr oes fecanyddol ac ymddangosiad trenau, ceir ac awyrennau a oedd yn gallu cyrraedd cyflymderau nad oedd wedi'u gweld o'r blaen roedd y Futuristi am gyfleu cyffro a symudiad yr oes newydd yn eu celf ac yn disodli gwaith statig, traddodiadol.

Roedd diddordeb arbennig ganddynt yng ngwaith y ffotograffydd 19g Étienne-Jules Marey, a datblygodd gwaith crono-ffotogrffeg a oedd yn dangos am y tro cyntaf sut oedd symudiad mecanyddol pobl ac anifeilaidd.  [5]

Roedd gwaith Marey'n arbennig o ddylanwadol i weithiau Futuristi fel Umberto Boccioni a'i gynfas Egni y Bieciwr (1913) sy'n cyfleu symudiad a bywiogrwydd biec a Giacomo Balla a'i waith enwog Egni Ci ar Dennyn[dolen marw] sy'n dangos symudiad ci, tennyn a choesau perchnnog y ci wthi iddynt fynd am dro.

Cafodd waith y Futuristi Eidaleg ddylanwad dros fudiadau celfyddydol arloesol eraill, yn arbennig celf haniaethol (abstract), Ciwbiaeth, Suprematism, Lluniadaeth (Constructivism) a Dada.

Yn Rwsia ysbrydolwyd arlunwyr fel Kazimir Malevich a llenorion fel Vladimir Mayakovsky gan y mudiad Eidalaidd a chredwyd mudiad Dyfodoliaeth Rwsieg arloesol.

Rhyfel a Ffasgiaeth golygu

 
Pensaerniaeth arloesol y Dyfodolwyr – Ffactri ceir Fiat,Turin,1928 – gyda thrac rasio ar y to

Tra roedd llawer o fudiadau celfyddydol ac arlunwyr yr 20g yn gwrthwynebu rhyfel ac yn cyfleu ei erchyllterau. Roedd y Dyfodolwyr, ar y llaw arall, yn frwdfrydig dros ryfel a gwladgarwch ac o blaid i'r Eidal cymryd rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Pwynt rhif 9 ym maniffesto Marinetti 1909 oedd Bydden ni'n clodfori rhyfel – unig hylendid i'r byd – milwriaeth, gwladgarwch, yr arwydd dinistriol ymladdwyr rhyddid, syniadau hyfryd gwerth marw drostynt, a dirmyg i ferched.

Lladdwyd sawl arlunydd y mudiad yn y rhyfel yn cynnwys Umberto Boccioni a'r pensaer Antonio Sant’Elia, dau o'r prif enwau. Gyda'r rhyfel ddaeth cyfnod wrth-sefydliadol a mwyaf arloesol Dyfodoliaeth i'w ben.

Yn dilyn y rhyfel cefnogodd llawer o Futuristi syniadaeth Ffasgiaeth a'r unben Benito Mussolini a ddaeth i rym yn y 1920au ac arweiniodd yr Eidal i drychineb yn Ail Ryfel Byd.

Fel y Ffasgwyr roedd llawer o'r Futuristi Eidalaidd yn wladgarwyr ac edmygwyr grym a thrais ac am weld moderneiddio ardaloedd gwledig de'r wlad. Ffurfiodd Marinetti blaid wleidyddol dyfodoliaeth (Partito Politico Futurista) ym 1918 a unodd gyda phlaid Ffasgaidd Mussolini y flwyddyn ganlynol.

Cydnabyddwyd a chefnogwyd Futurismo gan lywodraeth y Ffasgwyr wedi i Mussolini'n dod i rym ym 1922. Adeiladwyd nifer o adeiladu a cherfluniaeth yn steil Futurismo i glodfori'r gyfundrefn newydd.

Ymdrechodd Marinetti i wneud Futurismo unig arddull swyddogol yr Eidal ond gefnogodd Mussolini nifer o wahanol arddulliau celfyddydol, yn arbennig copïau o gelf oes Rhufeinig, er mwyn cadw'r arlunwyr a chyhoedd ar ei ochr.

Er i Futurismo cael ei gysylltu'n gryf gyda Ffasgiaeth, roedd ganddo gefnogwyr ac arlunwyr a oedd yn wrthwynebwyr y ffasgwyr. Ond ym 1924 gadawodd y Sosialwyr, Comiwnyddion ac Anarchwyr gynhadledd y Futuristi ym Milan er ni ddistewid yn llwyr lleisiau gwrth-ffasgaeth o fewn Dyfodolaeth yr Eidal tan y 1930au.[6]. Bu un o brif feddylwyr neo-ffasgwyr cyfoes, Julius Evola yn aelod o'r Futuristi am gyfnod.

 
Luigi Russolo a'i intonarumori

Futuristi (Dyfodolwyr) golygu

Yr Eidal

  • Filippo Tommaso Marinetti
  • Benito Mussolini
  • Enrico Allimandi
  • Adone Asinari
  • Franco Asinari
  • Antonio Asturi
  • Fedele Azari
  • Giacomo Balla
  • Enzo Benedetto
  • Umberto Boccioni
  • Vittorio Bodini
  • Uberto Bonetti
  • BOT (Osvaldo Barbieri)
  • Anton Giulio Bragaglia
  • Paolo Buzzi
  • Francesco Cangiullo
  • Benedetta Cappa
  • Mario Carli
  • Enrico Carmassi
  • Sebastiano Carta
  • Carlo Carrà
  • Gianni Carramusa
  • Giuseppe Caselli
  • Enrico Cavacchioli
  • Primo Conti
  • Bruno Corra (Bruno Ginanni Corradini)
  • Tullio Crali
  • Auro D'Alba (Umberto Bottone)
  • Giulio D'Anna
  • Luigi De Giudici
  • Mino Delle Site
  • Fortunato Depero
  • Gerardo Dottori
  • Carlo Erba
  • Julius Evola
  • Farfa (Vittorio Osvaldo Tommasini)
  • Fillia (Luigi Enrico Colombo)
  • Luciano Folgore
  • Gesualdo Manzella Frontini
  • Achille Funi
  • Ivanhoe Gambini
  • Giacomo Giardina
  • Arnaldo Ginna (Arnaldo Ginanni Corradini)
  • Corrado Govoni
  • Guglielmo Jannelli
  • Giovanni Korompay
  • Mimì Maria Lazzaro
  • Michele Leskovic
  • Osvaldo Licini
  • Gian Pietro Lucini
  • Alberto Magnelli
  • Vincenzo Mai
  • Enzo Mainardi
  • Giorgio Michetti
  • Antonio Marasco
  • Emma Marpillero, Corradi
  • Pino Masnata
  • Silvio Mix
  • Sante Monachesi
  • Marisa Mori
  • Bruno Munari
  • Emilio Notte
  • Novo (Nello Voltolina)
  • Pippo Oriani
  • Nino Oxilia
  • Ivo Pannaggi
  • Giovanni Papini
  • Vittorio Piscopo
  • Enrico Prampolini
  • Francesco Balilla Pratella
  • Giuseppe Preziosi
  • Salvatore Quasimodo
  • Riccardo Ricas Castagnedi
  • Romolo Romani
  • Ottone Rosai
  • Pippo Rizzo
  • Mino Rosso
  • Luigi Russolo
  • Bruno Giordano Sanzin
  • Alberto Sartoris
  • Antonio Sant'Elia
  • Gino Severini
  • Ardengo Soffici
  • Fides Stagni
  • Tato (Guglielmo Sansoni)
  • Bruno Giordano Sanzin
  • Fides Stagni
  • Joseph Stella
  • Mario Sturani
  • Thayaht (Ernesto Michahelles)
  • Wladimiro Tulli
  • Vann'Antò
  • Ruggero Vasari
  • Lucio Venna, (Giuseppe Landsmann)
  • Mario Mirko Vucetich

Pensaeri

  • Mario Chiattone
  • Manlio Costa
  • Virgilio Marchi
  • Antonio Sant'Elia

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-12. Cyrchwyd 2021-06-20.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-22. Cyrchwyd 2015-03-11.
  3. http://www.wiw.net/pages.php?CDpath=3_5_252_298[dolen marw]
  4. http://www.theartstory.org/movement-futurism.htm
  5. https://www.khanacademy.org/humanities/art-1010/wwI-dada/art-great-war/a/italian-futurism-an-introduction
  6. Art, Nationalism and War: Political Futurism inItaly (1909–1944) Dr Daniele Conversi, University of Lincoln, 2009 The Author Sociology Compass 3/1 (2009): 92–117, 10.1111/j.1751-9020.2008.00185.xJournal Compilation © 2009 Blackwell Publishing Ltd