Astudiaeth dyletswyddau a rhwymedigaethau yw dyletswyddeg.[1] Dadleua moesegwyr dyletswyddegol, megis Kant, taw rheolau diamod sydd ynghlwm moesoldeb. Yn ôl yr athrawiaeth hon, y cymhelliad i weithredu o ran dyletswydd, ac nid drwy ystyried canlyniadau'r gweithred, sy'n pennu gwerth foesol. Gellir ei chyferbynnu ag athroniaethau canlyniadol megis defnyddiolaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [deontology].
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.