Dyn Vitruvius

darlun gan Leonardo da Vinci

Darlun a wnaed gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw Dyn Vitruvius (Eidaleg: l'uomo vitruviano [ˈlwɔːmo vitruˈvjaːno]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio (yn llythrennol: 'Cyfrannau o'r corff dynol yn ôl Vitruvius')[1]. Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig, Vitruvius. Mae'r darlun, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgwâr. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo o'r cyfrannau corff dynol delfrydol.

Dyn Vitruvius
Eidaleg: L'uomo vitruviano
ArlunyddLeonardo da Vinci
Blwyddyntua 1490
Maint34.6 cm × 25.5 cm ×  (13.6 in × 10.0 in)
LleoliadGallerie dell'Accademia, Fenis

Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darlun ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i cedwir yn Gabinetto dei disegni e delle stampe y Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, o dan gyfeirnod 228. Fel yn achos y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o arddangosfa arferol yr oriel.[2] [3] Yn ddiweddar, roedd y gwaith i'w weld yn yr arddangosfa o waith Leonardo yn y Louvre, Paris, rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020, fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal. [4] [5]

Testun a theitl golygu

 
Dyn Vitruvius, darlun mewn argraffiad darluniadol o De Architectura Vitruvius, gan Cesare Cesariano (1521)

Mae'r ddelwedd hon yn dangos y cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni yn ogystal â dangos dealltwriaeth ddofn Leonardo o gyfranedd. Yn ôl y testun sy'n ei ganlyn, sydd wedi ei ysgrifennu o chwith, fe'i gwnaed fel astudiaeth o gyfrannau'r corff dynol (gwrywaidd) fel y disgrifir yn De Architectura 3.1.2–3 Vitruvius. Mae'r darlun hwn yn sylfaen i Leonardo ymdrechu cysylltu dyn â natur. Credai fod teithi'r corff dynol yn gyfatebol i deithi'r bydysawd.

Er bod Leonardo yn dangos gwybodaeth eglur am Vitruvius, nid yw ei ddyluniad yn dilyn y disgrifiad o'r testun gwreiddiol. Wrth iddo lunio'r cylch a'r sgwâr mae wedi sylwi na all y sgwâr fod â'r un canol â'r cylch, [6] ac mae felly wedi'i ganoli ar y afl. Yr addasiad hwn yw'r rhan arloesol o ddyluniad Leonardo a'r hyn sydd yn ei wahaniaethu oddi wrth ddarluniau cynharach. Mae hefyd yn ymadawiad o gysyniad gwreiddiol Vitruvius gan ei fod wedi llunio'r breichiau lawer yn uwch na chopa'r pen, yn hytrach na'r ongl lawer is a awgrymodd Vitruvius, lle mae'r breichiau yn ffurfio llinellau sy'n croestorri ar y fogail.

Ysbrydoliaeth a chydweithrediad posibl golygu

 
Prototeip y Dyn Vitruvius gan Giacomo Andrea

Roedd llawer o artistiad wedi ceisio dylunio lluniau a fyddai'n bodloni honiad Vitruvius y gall corff dynol ffitio mewn i sgwâr yn ogystal â chylch. Francesco di Giorgio Martini oedd y cyntaf i wneud hyn yn y 1480au.[7][8] Mae'n bosibl bod Leonardo wedi'i ddylanwadu gan waith ei ffrind Giacomo Andrea, pensaer a oedd wedi ciniawa ag ef yn 1490. Cyfieira Leonardo hefyd yn uniongyrchol at "(ddyn) Vitruvius Andrea".[8] Mae dyluniad Andrea yn cynnwys arwyddion ei fod wedi rhwbio rhywbeth allan, sydd yn awgrymu ei fod yn waith gwreiddiol.[8][9] Fel yn achos Dyn Vitruvius Leonardo, mae Andrea hefyd yn canoli ei gylch ar y fogail, ond dim ond un ystum sydd i'w weld.

Tarddiad golygu

Prynodd Giuseppe Bossi y llun gan Gaudenzio de 'Pagave,[10] a oedd wedi ei disgrifio, ei drafod a'i ddarlunio yn flaenorol.[11] Y flwyddyn ganlynol, echdynnodd y rhan o'i fonograff sy'n ymwneud â Dyn Vitruvius a'i gyhoeddi fel Delle opinioni di Leonardo da Vinci intorno alla simmetria de 'Corpi Umani (1811), gydag ymroddiad i'w ffrind, y cerflunydd Antonio Canova. [12]

Ar ôl i Bossi farw yn 1815, prynodd y Gallerie dell'Accademia yn Fenis Dyn Vitruvius yn 1822, yn ogystal â nifer o ddyluniadau eraill Leonardo, ac mae wedi aros yno ers hynny.[13] Ar ôl i'r Louvre wneud cais i'w fenthyca ar gyfer arddangosfa o waith Leonardo yn 2019, dadleuodd sefydliad Italia Nostra fod y dyluniad yn rhy fregus i'w gludo.[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. The Secret Language of the Renaissance – Richard Stemp
  2. "The Vitruvian man". Leonardodavinci.stanford.edu. Cyrchwyd 2010-08-20.
  3. "Da Vinci's Code". Witcombe.sbc.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-19. Cyrchwyd 2010-08-20.
  4. "Leonardo da Vinci's Unexamined Life as a Painter". Aleteia. 1 December 2019. Cyrchwyd 1 December 2019.
  5. "Louvre exhibit has most da Vinci paintings ever assembled". The Atlantic. 1 December 2019. Cyrchwyd 1 December 2019.
  6. "The Vitruvian Man – Leonardo Da Vinci". About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 April 2014. Cyrchwyd 20 November 2018.
  7. Wolchover, Natalie (31 Ionawr 2012). "Did Leonardo da Vinci copy his famous 'Vitruvian Man'?". NBC News. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.
  8. 8.0 8.1 8.2 Lester, Toby (1 Chwefror 2012). "The Other Vitruvian Man". Smithsonian Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-01. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.
  9. "Leonardo: The Man Who Saved Science". Secrets of the Dead. Season 16. Episode 5. 5 April 2017. 52 minutes in. PBS.
  10. Bossi, Giuseppe (1810)Del Cenacolo di Leonardo da Vinci libri quattro (in Italian) Milano: Stamperia Reale p.208ff
  11. "Bibliographic reference". Ursusbooks.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2010-08-20.
  12. "Bibliographical notice, no. 319". Lib.rochester.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2009. Cyrchwyd 20 August 2010.
  13. "LEONARDO DA VINCI. THE UNIVERSAL MAN". venezia.net. Cyrchwyd 2014-02-13.
  14. Giuffrida, Angela (8 October 2019). "Leonardo da Vinci work 'too fragile' to be transported to France". The Guardian. Cyrchwyd 12 October 2019.