Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük

Cerflun cynhanesyddol o fenyw yn eistedd ar gadair neu orsedd yw Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük (hefyd Çatal Höyük neu Çatalhüyük). Mae'n gerflun o glai wedi'i danio o fenyw noeth sy'n eistedd ar gadair neu orsedd o ryw fath rhwng dwy fraich sy'n terfynu mewn pennau llewod. Tybir yn gyffredinol ei bod yn cynrychioli Mam-dduwies dew a ffrwythlon sydd ar ganol esgor ar blentyn. Darganfuwyd y cerflun ar safle dinas hynafol Çatalhöyük yn Nhwrci.

Y cerflun yn Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia, Ankara

Dyma'r mwyaf adnabyddus o sawl cerflun cyffelyb o'r un safle, a gysylltir gan archaeolegwyr â cherfluniau eraill o'r cyfnod Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) sy'n cynrychioli mam-dduwiesau tew, er enghraifft 'Gwener Willendorf'. Mae'r perthynas iconograffig rhwng y cerflun Anatolaidd hwn â'r cerfluniau diweddarach o'r Fam-dduwies Anatolaidd Cybele, sy'n dyddio o'r Fileniwm 1af CC, yn drawiadol.

Credir fod y cerflun yn dyddio o tua 6,000 CC. Fe'i darganfuwyd gan yr archaeolegydd James Mellaart tra'n cloddio yn Çatalhöyük yn 1961.[1] Erbyn hyn mae 'Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük' yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia yn Ankara, prifddinas Twrci.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mellaart, James : Çatal Hüyük, A Neolithic Town in Anatolia, London, 1967.

Dolenni allanol golygu