Anabledd dysgu sy'n achosi anawsterau gyda iaith ysgrifenedig yw dyslecsia. Er bod sillafu a darllen yn anodd i bobl ddyslecsig, mae'n gyflwr gwbl wahanol i anawsterau a achosir gan ddiffyg deallusrwydd, nam ar y clyw neu'r golwg, neu ddiffygion addysg llythrennedd. Daw'r gair dyslecsia o'r Roeg "δυσ-" ("diffygiol") a λέξις ("gair").

Dyslecsia
Enghraifft o'r canlynolanabledd dysgu, anabledd darllen, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder darllen, anhwylder iaith, anabledd dysgu, clefyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebhyperlecsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n debyg mai sut y mae'r ymennydd yn prosesu iaith ysgrifenedig a llafar sy'n achosi dyslecsia. Mae dyslecsia'n effeithio pobl ddeallus, anneallus a chanolig eu gallu fel ei gilydd.[1]

Hanes golygu

Bathwyd y term 'dyslecsia' ym 1887 gan Rudolf Berlin, yn Stuttgart, yr Almaen.[2] Gwnaed rhywfaint o ymchwil iddo yn Lloegr o 1896[3] ymlaen gan W. Pringle Morgan a James Hinshelwood, (dallineb geiriau oedd y term a ddefnyddiwyd ganddynt).[4]

Ymchwil wyddonol golygu

Y ddamcaniaeth esblygol golygu

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, gweithred annaturiol yw darllen, un a wnaed gan ddyn am gyfnod byr iawn o'n hanes esblygol. Yn wir, mae sawl rhan o'r byd lle nad oes gan fwyafrif y boblogaeth gyfle i ddarllen o hyd. Nid oes tystiolaeth bod "patholeg" y tu ôl i ddyslecsia, ond mae llawer o dystiolaeth o amrywiaeth neu wahaniaethau ymenyddol.[5]

Y ddamcaniaeth ffonolegol golygu

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae gan bobl ddyslecsig amhariad penodol wrth gynrychioli, storio ac adalw synau llafar. Gall hyn egluro'r anawsterau darllen a geir, gan fod angen dysgu'r gyfatebiaeth rhwng ffonemau a graffemau er mwyn dysgu darllen iaith ysgrifenedig sy'n defnyddio gwyddor.[6]

Y ddamcaniaeth brosesu clywedol chwim golygu

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, deall synau byr sy'n newid yn sydyn yw'r prif anhawster.[7]

Y ddamcaniaeth weledol golygu

Tardda'r ddamcaniaeth hon o'r arfer o ystyried dyslecsia fel nam ar y golwg, sy'n achosi anawsterau wrth brosesu llythrennau a geiriau.[8]

Y ddamcaniaeth serebelaidd golygu

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae nam ar cerebelwm pobl ddyslecsig. Mae gan y cerebelwm ran mewn rheolaeth symud, ac felly mewn cynhyrchu sain: honnir fod nam ar y lleferydd yn gallu achosi nam ar y sillafu. Yn ogystal, mae'r cerebelwm yn ein galluogi i weithredu'n awtomatig wrth yrru, teipio, darllen ac yn y blaen: fe all hyn egluro'r anawsterau wrth ddysgu'r gyfatebiaith graffem/ffonem.[8]

Y ddamcaniaeth osgoi sŵn gweledol golygu

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae gan bobl ddyslecsig nam ar eu gallu i osgoi sŵn gweledol (hynny yw, anwybyddu gwrthdyniadau synhwyrol).[9]

Ffactorau genynnol golygu

Mae ymchwil wedi cysylltu sawl ffurf o ddyslecsia â nodwyr genynnol.[10]

Ers 2007, adnabu ymchwil enynnol naw ardal cromosom a all fod â chysylltiad â dyslecsia.[11]

Ffisioleg golygu

Cynhyrchwyd tystiolaeth fod gwahaniaethau strwythurol yn ymenyddiau plant sydd ag anawsterau darllen, gan ddefnyddio technegau megis fMRI a PET.[12][13]

Effaith orgraff yr ieithoedd a ddysgir golygu

Daeth sawl darn o ymchwil i'r casgliad fod y sawl sy'n siarad ieithoedd sydd â pherthynas cyson iawn rhwng graffem (llythyren) a ffonem (sain) - megis Eidaleg a'r Gymraeg - yn dioddef llai o effeithiau dyslecsia na'r sawl sy'n siarad ieithoedd llai cyson eu horgraff megis Saesneg a Ffrangeg.[14]

Ond nid mympwy'r orgraff sy'n achosi dyslecsia: honnir fod dyslecsia siaradwyr Almaeneg ac Eidaleg yr un fath â dyslecsia siaradwyr Saesneg, gan gyd-fynd ag eglurad biolegol i ddyspracsia. Effeithiau'r cyflwr sy'n dibynnu'n rhannol ar amgylchedd ieithyddol.[15]

Nodweddion golygu

Gwnaed diagnosis ffurfiol gan berson cymwysiedig, megis nwrolegydd neu seicolegydd addysg. Profir gallu darllen, ynghyd â medrau enwi chwim, darllen an-eiriol, a weithiau prawf IQ cyffredinol. Ond awgryma ymchwil na ddylid defnyddio'r cyfeiliornad rhwng IQ a lefel darllen wrth benderfynu ar ddiagnosis.[16] Yn aml, ceir profion rhyngddisgybliaethol er mwyn sicrhau nad oes achos arall i'r anawsterau darllen.

Pwyntiau cyffredinol golygu

Gall bobl â dyslecsia:

  • Fod yn glyfar, deallus a chroyw eu hiaith lafar (ond mae eu lefel darllen, ysgrifennu a sillafu yn is na'r disgwyl).
  • Fod â chyflawniad addysgol gwael achos o'u hanawsterau.
  • Deimlo'n anneallus a dihyder, a theimlo rhwystredigaeth tuag at waith ysgol.
  • Guddio eu gwendidau darllen drwy fabwysiadu strategaethau adfer.
  • Ddysgu'n well drwy brofiad ymarferol, arddangos, arbrofi ac arsylwi.
  • Ddangos llwyddiant mewn meysydd eraill.
  • Gael problemau perthynol gyda thalu sylw mewn cyd-destun ysgol.

Lleferydd, clywed a gwrando golygu

Gall ohirio ar siarad fod yn arwydd cynnar o ddyspracsia. Mae gan lawer o bobl ddyslecsig broblemau prosesu synau cyn ceisio cynhyrchu'u synau'u hunain. Gall atal dweud a chlystyru fod yn arwydd cynnar yn ogystal. Gall siarad yn glir fod yn broblem i rywun dyslecsig: gallent ddrysu synau mewn geiriau aml-sill (e.e. afinail yn lle anifail, basgeti yn lle sbageti ac yn y blaen).[17][18]

Darllen a sillafu golygu

Gwelir:

  • Gwallau sillafu.
  • Drysu trefn llythrennau.
  • Sillafu gor-ffonetig (e.e. sillafu Saesneg yn Gymraeg: try "I should eat" yn "Ai shwd it").
  • Cof tymor hir da - gallu cofio cynnwys llyfrau-dysgu-darllen heb allu darllen geiriau unigol.
  • Geirfa ysgrifenedig fach o gymharu â'r eirfa lafar.

Gallu mathemategol golygu

Ni ddylid drysu dyslecsia â dyscalcwla. Gall bobl ddyslecsig fod yn alluog yn fathemategol. Ond fe allent gael trafferth â phroblemau geiriol, cofio ffeithiau mathemategol (megis tablau lluosi), neu gofio trefn rhifau.

Cyfeiriadau golygu

  1.  A Conversation with Sally Shaywitz, M.D., Author of Overcoming Dyslexia.
  2. Uber Dyslexie, Cyfrol 15, tud. 276-278
  3.  Margaret J. Snowling (1996-11-02). Dyslexia: a hundred years on. BMJ.
  4. J Hinshelwood (1917). Congenital Word-blindness. HK Lewis & Co. Ltd.
  5. J.T. Dalby (1986). An ultimate view of reading ability, Cyfrol 30, Rhifyn 3. Gordon and Breach, Science Publishers, Inc., tud. 227-230
  6. Franck Ramus et al (Ebrill 2003). Theories of developmental dyslexia: insights from a multiple case study of dyslexic adults, Cyfrol 126, Rhifyn 4. Oxford University Press, tud. 841-865. URL
  7. Beverly Wright et al (1997). Deficits in auditory temporal and spectral resolution in language-impaired children, Cyfrol 387, tud. 176-8. URL
  8. 8.0 8.1 ibid
  9. Anne J. Sperling et al (2006). Motion-Perception Deficits and Reading Impairment: It's the Noise, Not the Motion, Cyfrol 17, Rhifyn 12. Association for Psychological Science, tud. 1047-1053. URL
  10. (Ionawr 2001) Developmental dyslexia: an update on genes, brains, and environments, Cyfrol 42, Rhifyn 1, tud. 91-125
  11. Johannes Schumacher et al (16 Chwefror 2007). Genetics of dyslexia: the evolving landscape, Cyfrol 44. BMJ Publishing Group, tud. 289-297. URL
  12. Fan Cao et al (Tachwedd 2006). Deficient orthographic and phonological representations in children with dyslexia revealed by brain activation patterns, Cyfrol 47, tud. 1041-1050. URL
  13. B.A. Shaywitz et al (2006). The role of functional magnetic resonance imaging in understanding reading and dyslexiaURL
  14.  Scientists Say Severity of Dyslexia Depends on Language. Los Angeles Times (16 Mawrth 2001).
  15. Johannes C. Ziegler et al. Developmental dyslexia in different languages: Language-specific or universal?, tud. 169–193. URL
  16. Jack M. Fletcher et al (Tachwedd 1992). The validity of discrepancy-based definitions of reading disabilities, Cyfrol 25, Rhifyn 9, tud. 555-61, 573. URL
  17.  Questionnaire: Dyslexia & Vision. Stephen Wilcox Optometrists.
  18. Louise Brazeau-Ward (2005). Dyslexia and University. ISBN 1-894964-71-3URL