Term traddodiadol yn llenyddiaeth Iwerddon sy'n golygu 'taith (antur)' neu 'antur' yw echtrae (Gwyddeleg, ynganer echtre) neu echtra. Yn y rhestrau traddodiadol o'r chwedlau Gwyddelig mae'n cyfeirio at deithiau arwyr i barthau diarth a rhyfeddol sy'n gorwedd y tu hwnt i fyd dynoliaeth.

Mae'r echtrai yn ffurfio dosbarth arbennig o chwedlau sy'n gyffelyb eu naws i ddosbarth yr immramau. Y brif wahaniaeth rhyngddynt yw bod yr imrammai yn canolbwyntio ar y daith (mordaith fel rheol) tra bod yr echtrai yn disgrifio anturiaethau'r arwr neu'r arwyr yn yr Arallfyd.

Rhai echtrae golygu

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic religion and culture (Boydell & Brewer, 1997)
  • J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.