Mae Echuca yn dref ar lannau Afon Murray ac Afon Campaspe yn Victoria, Awstralia. Roedd gan y dref boblogaeth o 14,934 yn 2018. Mae Echuca yn ardal frodorol Yorta Yorta ac mae enw’r dref yn golygu ‘Cymer y dyfroedd’. Mae’r dref yn agos i gymer afonydd Murray, Campaspe, a Goulburn. Echuca yw’r lle agosaf at Melbourne ar Afon Murray. Mae Moama, De Cymru Newydd gyferbyn ag Echuca, ar draws Afon Murray. Mae amgueddfa [1][2] ar lan Afon Murray, sy’n denu twristiaid i’r dref.[3] Adeiladwyd Cei Echuca ym 1865 gan Rheilffordd Victoria. Roedd adeiladu cychod yn bwysig i’r dref ac i fasnach yr afon. Roedd gan Echuca 8 melin llifio, ac adeiladwyd hyd at 240 o stemars olwyn yn flynyddol yn y dref, yn defnyddio coed gwm cochion o fforestydd Barmah, Moira a Perricoota gerllaw.[2] Estynnwyd y cei ym 1877 a 1879 i fod 1.2 cilomedr o hyd, ar 3 lefel i gymhwyso at lefelau gwahanol yr afon. Dymchwelwyd mwyafrif y cei ym 1944.[4]

Echuca
Mathtref, ardal a gofnodwyd yn Victoria, Awstralia Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,056 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00, UTC+11:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEchuca - Moama Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd140.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr96 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.1333°S 144.75°E Edit this on Wikidata
Cod post3564 Edit this on Wikidata
Map
Cei Echuca
Locomotif stêm yng Nghanolfan Ddarganfod y dref

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Victoria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.