Eddie Ladd

Dawnswraig a chyflwynwraig o Gymraes

Mae Eddie Ladd (ganwyd 18 Ebrill 1964)[1] yn ddawnswraig a pherfformwraig o Gymraes. Mae'n adnabyddus hefyd am gyflwyno rhaglenni cerddoriaeth gyfoes.

Eddie Ladd
GanwydGwenith Owen Edit this on Wikidata
18 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdawnsiwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.eddieladd.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Enw bedydd Eddie Ladd yw Gwenith Owen.[2] Fe'i magwyd ar fferm ger Aberteifi, Gorllewin Cymru. Astudiodd Ddrama a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth[2] a graddiodd yn 1985.[3]

Ladd oedd cyfenw ei mam cyn priodi a phan ymunodd a'r undeb actio, Equity, fe gofrestrodd yr enw Eddie Ladd am ei fod yn swnio yn "snappy".[2]

Gyrfa golygu

Rhwng 1989 a 1991 roedd yn gyflwynydd "dadleuol"[3] y sioe gerddoriaeth Gymraeg Fideo 9 ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglen The Slate (yn Saesneg) ar BBC2.[2]

Roedd Ladd yn aelod o'r cwmni perfformio anarchaidd, Brith Gof, am ddeng mlynedd.[2] Teithiodd gyda nhw yn rhyngwladol ar draws Ewrop a De America.[3]

Mae wedi creu ei sioeau a phrosiectau ei hun ers y 1990au. Enillodd ei sioe unigol Club Luz, wobr yng Ngŵyl Caeredin 2003.[4] Yn 2005 fe'i dewiswyd gan y British Council i gynrychioli'r gorau o theatr Gymreig yng Ngŵyl Caeredin, ynghyd â No Fit State Circus a Volcano Theatre.[5]

Yn 2009 creodd Ladd Ras Goffa Bobby Sands, ddarn theatrig 50 munud o hyd am y streiciwr newyn Bobby Sands. Llwyfannwyd y perfformiad ar beiriant rhedeg anferth ac fe deithiwyd o gwmpas Cymru.[6] Fe'i perfformiwyd tu allan i Gymru ac fe adolygwyd ei ymddangosiad yn 'The Place', Llundain gan bapur newydd The Independent.[7]

Gwobrau a chydnabyddiaeth golygu

  • Cymrodoriaeth NESTA (2001)[3]
  • Gwobr Total Theatre Gŵyl Caeredin (2003), am theatr corfforol a gweledol.[4]
  • Artist Dawns Gorau - Menyw (perfformiwr a/neu goreograffydd) (2016).[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwenith Owen [@GwenithOwen] (18 Ebrill 2020). "So mam wedi bod getre ers Mawrth 12fed. Mam: Wel, sda fi ddim byd i ti ar dy fyrthdei. Fi: Gwna Welsh cakes Mam: Reit 'te *ar ei thraed*" (Trydariad) – drwy Twitter.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gareth Bicknell, "Avant-garde Eddie is one of the Ladds; Gareth Bicknell gets to grips with the real and imaginary world of Eddie Ladd", Daily Post (Liverpool), 27 September 2003.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Net dancing award for Eddie", BBC Wales News, 3 July 2001.
  4. 4.0 4.1 "Triumph for Welsh dancer", WalesOnline, 23 August 2003.
  5. Hannah Jones, "Flying the arts flag for Wales", Western Mail, 14 July 2005.
  6. Karen Price, "Keep on running", WalesOnline, 2 October 2009.
  7. Zoe Anderson, "The Bobby Sands Memorial Race, The Place, London" Archifwyd 2015-09-25 yn y Peiriant Wayback., The Independent, 13 Ebrill 2010.
  8. (Saesneg) The Winners! - The Wales Theatre Awards. Wales Theatre Awards (30 Ionawr 2015). Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.

Dolenni allanol golygu