Edgar Rees Jones

gwleidydd Cymreig

Roedd Syr Edgar Rees Jones (27 Awst 1878 - 16 Mehefin 1962) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Merthyr Tudful rhwng Ionawr 1910 hyd ddiddymu'r sedd ym 1918 ac yna dros sedd newydd Merthyr rhwng 1918 a 1922

Edgar Rees Jones
Ganwyd27 Awst 1878 Edit this on Wikidata
Cwmaman Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mehefin 1962 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Edgar Jones yng Nghwmaman, yn un o naw o blant Morgan Humphrey Jones, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a Margaret Ann (née Evans) ei wraig. Cafodd ei fagu yn Wattstown, Y Rhondda.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan dderbyn ei radd Baglor yn y Celfyddydau mewn athroniaeth ym 1900 [1] a gradd Meistr yn y Celfyddydau ym 1903.[2] Roedd ei draethawd MA ar "Theorïau gwleidyddol yn Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg".

Priododd Lillian Eleanor May Brackley ym 1919, bu iddynt fab a merch.

Gyrfa golygu

Ar ôl gadael y Coleg, bu Jones yn athro o dan gyngor addysg y Rhondda, ac wedyn aeth yn ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Seisnig yn Ysgol Athrawon Porth y Rhondda. Roedd yn aelod egnïol a dylanwadol o Gangen y Rhondda a Phontypridd Undeb Genedlaethol yr Athrawon gan wasanaethu fel ei llywydd am y flwyddyn 1906.[3] Yn niwedd 1908, penodwyd ef yn ddarlithydd i'r Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymreig a fu yn teithio drwy Gymru yn rhoi darlithoedd am hanes ac athrawiaeth Rhyddfrydiaeth.[4]

Dechreuodd hyfforddi am y gyfraith ychydig cyn ei ethol i'r senedd am y tro cyntaf ac fe'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn ym 1912.[5] Bu hefyd yn aelod o far De Cymru Newydd ac Awstralia.[6]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd Jones fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol etholiad cyntaf 1910 am un o ddwy seddBwrdeistref Merthyr Tudful gan ennill y sedd gyntaf gyda 41% o'r pleidleisiau. (Enillodd Keir Hardie yr ail sedd efo 37% o'r pleidleisiau). Cadwodd ei sedd hyd i'r sedd cael ei ddiddymu ar gyfer etholiad 1918. Ym 1918 safodd fel Rhyddfrydwr y Glymblaid yn etholaeth newydd Merthyr gan gipio'r sedd efo 52% o'r bleidlais.[7]

Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf fe'i penodwyd yn Rheolwr Blaenoriaethau yn y Weinidogaeth Arfau Rhyfel. Un o'i ddyletswyddau oedd sicrhau cyflenwadau digonol o fwydydd tun i'r lluoedd arfog. Cafodd ei urddon farchog ym 1918 am ei wasanaeth yn ystod y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel defnyddiodd Jones ei gysylltiadau i sefydlu cwmni Clarke, Jones & Co i allforio bwydydd tun i Awstria a chopr i Tsiecoslofacia. Ar ôl gwerthu'r nwyddau meddiannodd y Comisiwn Iawndal Rhyfel yr arian i dalu amdanynt, gan ei fod yn arian o wledydd a fu'n elynion yn y rhyfel. Rhoddwyd y cwmni yn nwylo goruchwylwyr ansolfedd gyda dyledion o £161,036.[8]. Gan nad oedd methdalwr yn cael bod yn Aelod Seneddol, ni chafodd Jones ymgeisio i gadw ei sedd yn etholiad cyffredinol 1922.

Wedi dod allan o fethdaliad ar ôl dod i gytundeb gyda'i gredydwyr i ad-dalu 5 swllt yn y bunt, roedd Jones yn rhydd i ail geisio am le yn y senedd yn etholiad cyffredinol 1923. Safodd yn etholaeth De Salford heb lwyddiant. Safodd eto, yn etholaeth Gŵyr ym 1931, ond methiant bu ei hanes eto.

Ar ôl ei yrfa seneddol bu Jones yn gadeirydd y Cyngor Canio Bwyd Cenedlaethol, Cyngor Canio Bwyd yr Ymerodraeth [9] ac yn lobïwr, darlithydd ac asiant i'r cartel oedd yn cydweithio i reoli'r farchnad haearn, dur a thunplat byd eang hyd wladoli'r diwydiant ym 1950, pan ymddeolodd.[10]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yn Llundain yn 83 mlwydd oed.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "GRADUATION CEREMONY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-11-24. Cyrchwyd 2020-06-10.
  2. "Y RADD O MA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1903-10-28. Cyrchwyd 2020-06-10.
  3. Yr Ymwelydd Misol, cyhoeddiad darluniadol anenwadol at wasanaeth ysgolion Sabothol ac aelwydydd Cymru Cyf. VIII rhif. 10 - Hydref 1910 - Ein Haelodau Seneddol, Rhif X, Edgar Rees Jones AS adalwyd 10 Mehefin 2020
  4. "MR EDGAR REES JONES MA - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1908-11-20. Cyrchwyd 2020-06-10.[dolen marw]
  5. Jones, Sir Edgar (Rees), barrister-at-law. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020
  6. Debrett's House of Commons 1922 adalwyd 11 Mehefin 2020
  7. Jones, Beti; Etholiadau'r Ganrif / Welsh Elections, Y Lolfa, 1997, ISBN 9780862434014
  8. The Times, 20 Mai 1922, Sir Edgar Rees Jones's Affairs.
  9. Times, 31 Mawrth, 1930 Empire Canning Council
  10. Mortimer, James Edward; A history of the association of engineering and shipbuilding draughtsmen; London: Association of Engineering and Shipbuilding Draughtsmen, 1960. Tudalen 246
  11. The Times, 19 Mehefin 1962 Sir Edgar Jones
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Alfred Thomas
Aelod Seneddol

Merthyr Tudful
19101918

Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol

Merthyr
19181922

Olynydd:
Richard Collingham Wallhead