Editorial Sudamericana

Cwmni cyhoeddi yn yr Ariannin yw Editorial Sudamericana a sefydlwyd yn 1939. Bellach fe'i perchenogir gan y cwmni amlwladol Almaenig Bertelsmann ac mae'n rhan o Penguin Random House.

Editorial Sudamericana
Math
cyhoeddwr
DiwydiantCyhoeddi
Sefydlwyd1939
SefydlyddVictoria Ocampo
Cynnyrchllyfr
Rhiant-gwmni
Penguin Random House
Gwefanhttps://www.penguinrandomhousegrupoeditorial.com/sello/sudamericana// Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y cwmni yn Buenos Aires yn 1939 gan garfan o ddeallusion a llenorion, gan gynnwys Victoria Ocampo ac Oliverio Girondo, gyda'r nod o gyhoeddi rhyddiaith a barddoniaeth Archentaidd a llenyddiaeth gyfoes o wledydd eraill. Dechreuodd drwy gyhoeddi llên i bobl ifainc, gan gynnwys gwaith y llenor Leopoldo Marechal a'r arlunwyr Antonio Berni ac Horacio Butler. Tyfodd yn un o weisg mwyaf a phwysicaf America Ladin drwy gyhoeddi ffuglen lenyddol gan awduron megis Gabriel García Márquez, Julio Cortázar, Augusto Roa Bastos, Juan Carlos Onetti, Antonio Skármeta, ac Isabel Allende.[1]

Cyhoeddwyd nifer o gyfieithiadau Sbaeneg yn y gyfres "Horizonte", gan gynnwys Cuán verde era mi valle ac Un desolado corazón gan Richard Llewellyn, Orlando gan Virginia Woolf, Tener y no tener gan Ernest Hemingway, Las palmeras salvajes gan William Faulkner, Doktor Faustus gan Thomas Mann, Sucedió en Bosnia gan Ivo Andrić, La isla a Contrapunto gan Aldous Huxley, a La mujer rota gan Simone de Beauvoir.

Prynwyd Editorial Sudamericana gan Bertelsmann yn 1998. Erbyn 2019, roedd Editorial Sudamericana yn un o 39 o is-gwmnïau cyhoeddi Penguin Random House Grupo Editorial.

Cyfeiriadau golygu

  1. Andrew Graham-Yooll, "Sudamericana, Editorial" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 554.

Dolen allanol golygu