Edmund Burke

gwladweinydd Eingl-Wyddelig, damcaniaethwr gwleidyddol ac athronydd ceidwadol (1729-1797)

Roedd Edmund Burke (12 Ionawr 1729 - 9 Gorffennaf 1797) yn byw yn oes y Chwyldro Ffrengig - roedd yn wrthwynebus iddo. Roedd y chwyldro Ffrengig yn gonglfaen i sawl syniad athronyddol wleidyddol. Nid dim ond meddylwyr Rhyddfrydol/chwyldroadol a ddylanwadwyd gan Ffrainc, ond fe ddylanwadwyd ar feddylwyr Ceidwadol fel Burke i ysgrifennu hefyd. Roedd Burke yn dod o gefndir crefyddol yn Nulyn; ei fwriad cyntaf oedd dilyn gyrfa yn y gyfraith yn Llundain, ond fe'u tynnwyd i mewn i wleidyddiaeth. Datblygodd enw i'w hun fel rebel y drefn Brydeinig. Cafodd Burke brofiadau gwleidyddol o dan lywodraeth Rockingham.

Edmund Burke
Ganwyd12 Ionawr 1729 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1797 Edit this on Wikidata
Beaconsfield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, ysgrifennwr, gwyddonydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amReflections on the Revolution in France, A Philosophical Enquiry into the Origin of Our Ideas of the Sublime and Beautiful Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAristoteles, Cicero, Tadau'r Eglwys, Richard Hooker, Montesquieu, William Blackstone, John Locke, David Hume Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChwigiaid, Rockingham Whigs Edit this on Wikidata
Mudiadliberal conservatism, counter-revolutionary Edit this on Wikidata
PriodJane Mary Nugent Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Burgh Edit this on Wikidata
llofnod

Y Chwyldro Ffrengig golygu

Fel rebel tybiasoch i Burke gefnogi y chwyldro ond fe ddylanwadodd y chwyldro arno i lunio ei syniadau mewn ffordd newydd. Cododd y chwyldro ofn arno - ei waith yn trafod hyn yw Reflections on the French Revolution. Nododd Richard Price, gweinidog anghydffurfiol o Gymru ei ddymuniad i weld newid mawr tebyg ym Mhrydain. Nododd Burke nad oedd rhaid dilyn trefn Ffrainc. Pwrpas y Chwyldro Ffrengig oedd sicrhau mwy o rydd i'r bobl.

Perygl Rhyddid ac athroniaeth haniaethol golygu

Er bod Burke yn credu mewn rhyddid roedd yn ofni rhag cefnogi rhyddid yn haniaethol. Rhaid ystyried y cyd-destun; Rhaid aros i'r niwl glirio cyn asesu os ydy rhywbeth (y chwyldro Ffrengig) yn dda neu'n ddrwg. Cred Burke ei bod hi'n amhosib astudio Gwleidyddiaeth ar lefel haniaethol. Dim ond wrth ymdrin â gwleidyddiaeth mae ei ddeall yn iawn. Noda ei bod hi'n bwysig addasu syniadau i weithio gyda'r hyn sy'n eich amgylchynu. Esboniad i fethiannau'r Ceidwadwyr heddiw? Bwriad hyn fyddai cadw'r status quo, ond ei reoli yn y ffordd orau posib. Roedd meddylwyr Prydain yn y cyfnod wedi rhwygo; rhai megis yr Anghydffurfiwr Richard Price am weld Prydain yn newid fel Ffrainc ond Burke am weld y drefn bresennol yn parhau.

Wedi dweud hynny roedd Burke yn gweld rhai pethau da o'r chwyldro:

  • Yr hawl i ddewis arweinwyr
  • Hawl hefyd i gael gwared ag arweinwyr os yw'n camfihafio
  • Hawl i ffurfio llywodraeth.

Ond fe gred Burke fod y 3 pwynt uchod yn erbyn syniadau traddodiadol Prydain. Dydy Burke ddim yn gwrthod y syniad o chwyldro yn llwyr. Mae'n credu ei fod yn gam eithafol tu hwnt. Cyn mynd i mewn i chwyldro rhaid bod yn hollol sicr fod dim gobaith o lwyddiant drwy ffyrdd eraill. Yn ei farn ef doedd pethau yn Ffrainc ddim mor ddu â hynny a doedd dim angen chwyldro.

Burke y Sais golygu

I Burke nid hawliau dyn sy'n bwysig ond hawliau'r Sais. Nid rhywbeth naturiol yw hawliau ond rhywbeth yr ydych chi wedi eu hetifeddu fel y Sais. Yn ei farn ef mae hawliau'r Sais yn etifeddiaeth 'enteledig'. Does dim hawliau 'enteledig' yng Nghymru, yn Lloegr y mab cyntaf sy'n etifeddu popeth. Cred y dylech ddilyn y drefn yma yn hytrach nag egwyddorion haniaethol megis 'rhyddid'. Roedd Burke yn ofni gweld impio syniadau/traddodiad dieithr i wleidyddiaeth Prydain pe tai chwyldro i ddigwydd.

Pam wnaeth Burke ymosod ar egwyddorion y Chwyldro Ffrengig? golygu

Wrth i’r chwyldro Ffrengig fynd rhagddi dechreuodd Burke sylwi fod yr hyn a ddadleuai drosto (sef Ewrop oedd wedi cael ei ffurfio drwy etifeddiant dros 2000 o flynyddoedd) ar fin cael ei newid a’i chwalu am byth. Gwelodd Burke y chwyldro fel cam yn ôl mewn hanes yn hytrach na cham ymlaen er ar y pryd fod y chwyldro wedi dod a threfn newydd. Dadleua Burke fod yna baradocs gan y chwyldro ar ideoleg tu ôl i’r chwyldroadwyr. Nid paradocsaidd yn yr ystyr fod pethau a syniadau yn gwrth ddweud ei gilydd ond yn hytrach yn baradocsaidd yn yr ystyr fod pobl yn dathlu ac yn llawn emosiwn fod y chwyldro wedi digwydd ond o ganlyniad yn anweledig i’w effeithiau hir dymor a gwael.

Y paradocs cyntaf mae Burke yn ei weld yn y chwyldro ydy fod syniadau/gwybodaeth wedi cael ei agor allan ple cynt roedd y mynachod a’r brenhinoedd yn eu cadw i gyd i mewn ac yn egsgliwsif. Dadleua Burke mae’r oll y gwnaeth y chwyldro oedd dod a hen syniadau a gwybodaeth nol i’r sffêr cyhoeddus. Mae’r ffaith mae ond brenin arall a ddaeth yn sgil y chwyldro yn dyst i hyn. Llawer o erthyglau gwrthchwyldro Burke yn ymateb i bregeth pro-chwyldro gan Price - gweinidog anghydffurfiol o Gymru. Burke yn gweld y chwyldro yn hytrach nag yn dorri ffwrdd o’r gorffennol ond yn hytrach yn agor y posibilrwydd i bwerau ‘gorthrymol’ ddod yn ôl unwaith eto.

Ond pryder mwyaf Burke oedd y byddai’r syniadau chwyldroadol yn torri ar draws Ewrop ac yn enwedig yn Lloegr. Nid oedd o’r rheidrwydd yn meddwl fod brenhiniaeth Ffrainc yn gwneud swyddogaeth dda ond gwelai wrth dynnu’r drwg i lawr, yn ddiymwybod roedd y chwyldroadwyr yn tynnu llawer o dda i lawr hefyd.

Cyfeiriadau golygu