Athronydd o Almaenwr oedd Edmund Gustav Albrecht Husserl (8 Ebrill 185927 Ebrill 1938) sy'n nodedig am sefydlu ffenomenoleg. Pwysleisiodd Husserl sythwelediad yn hytrach na dadansoddiad wrth ddisgrifio'r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar empiriaeth a rhesymeg ddiddwythol.

Edmund Husserl
GanwydEdmund Gustav Albrecht Husserl Edit this on Wikidata
8 Ebrill 1859 Edit this on Wikidata
Prostějov Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1938 Edit this on Wikidata
Freiburg im Breisgau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth mewn Gwyddoniaeth, athro cadeiriol, Privatdozent Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Leo Königsberger
  • Carl Stumpf Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, athronydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amlegitimacy, Logical Investigations Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBernard Bolzano, Carl Stumpf, Theodor Lipps, Franz Brentano, Gottlob Frege, Immanuel Kant Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth y Gorllewin Edit this on Wikidata
PriodMalvine Husserl Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Teulu a magwraeth (1859–76) golygu

Ganwyd Edmund Husserl ar 8 Ebrill 1859 yn Prossnitz (hen orgraff Almaeneg: Proßnitz), Ardalyddiaeth Morafia, yn Ymerodraeth Awstria, tref a elwir heddiw yn Prostějov yn y Weriniaeth Tsiec. Iddewon oedd ei deulu.

Addysg (1876–87) golygu

Mynychodd y Gymnasium yn Olmütz a chyflawnodd ei arholiadau yn 1876. Astudiodd ffiseg, mathemateg, seryddiaeth, ac athroniaeth ym mhrifysgolion Leipzig, Berlin, a Fienna. Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar bwnc calcwlws o Fienna yn 1882, a wnaeth dan diwtoriaeth y mathemategydd Leo Königsberger.

Yn nhymor yr hydref 1883, dychwelodd i Fienna i astudio gyda'r athronydd a seicolegydd Franz Brentano. Dylanwadwyd ar Husserl yn gryf gan bwyslais Brentano ar seicoleg ddisgrifiadol a'r ysbryd rhesymolaidd a arddelid gan ei fyfyrwyr. Yn 1886 trodd Husserl yn aelod ffurfiol o'r Eglwys Lwtheraidd Efengylaidd, arfer a wnaed gan nifer o academyddion Iddewig yn y gwledydd Almaenig yn y 19g. Y flwyddyn honno, aeth Husserl, ar gais Brentano, i ennill ei gymhwyster addysgu dan diwtoriaeth Carl Stumpf, athro athroniaeth a seicoleg ym Mhrifysgol Halle. Yn 1887 priododd Husserl â Malvine Steinschneider (1860–1950), merch i athro ysgol uwchradd o Prossnitz, a chawsant briodas serchus hyd ddiwedd ei oes.

Darlithio yn Halle (1887–1901) golygu

Yn 1887, cafodd Husserl ei dderbyn yn athro yn Halle, a bu'n darlithio yno nes 1901.

Ei gyfnod yn Göttingen (1901–16) a Freiburg (1916–28) golygu

Yn 1901, penodwyd Husserl yn ausserordentlicher (darlithydd prifysgol) ym Mhrifysgol Göttingen, ar gais y mathemategydd David Hilbert. Bu yno nes iddo symud i Brifysgol Freiburg yn 1916. Ymddeolodd o'i yrfa academaidd yn 1928.

Diwedd ei oes (1928–38) golygu

Bu farw ar 27 Ebrill 1938 yn 79 oed yn Freiburg im Breisgau.[1]


Llyfryddiaeth golygu

  • 1887. Über den Begriff der Zahl. Psychologische Analysen
  • 1891. Philosophie der Arithmetik. Psychologische und logische Untersuchungen
  • 1900. Logische Untersuchungen. Erster Teil: Prolegomena zur reinen Logik
  • 1901. Logische Untersuchungen. Zweiter Teil: Untersuchungen zur Phänomenologie und Theorie der Erkenntnis
  • 1911. Philosophie als strenge Wissenschaft
  • 1913. Ideen zu einer reinen Phänomenologie und phänomenologischen Philosophie. Erstes Buch: Allgemeine Einführung in die reine Phänomenologie
  • 1923–24. Erste Philosophie. Zweiter Teil: Theorie der phänomenologischen Reduktion
  • 1925. Erste Philosophie. Erster Teil: Kritische Ideengeschichte
  • 1928. Vorlesungen zur Phänomenologie des inneren Zeitbewusstseins
  • 1929. Formale und transzendentale Logik. Versuch einer Kritik der logischen Vernunft
  • 1930. Nachwort zu meinen „Ideen zu einer reinen Phänomenologie und phänomenologischen Philosophie“
  • 1936. Die Krisis der europäischen Wissenschaften und die transzendentale Phänomenologie: Eine Einleitung in die phänomenologische Philosophie
  • 1939. Erfahrung und Urteil. Untersuchungen zur Genealogie der Logik.
  • 1950. Cartesianische Meditationen
  • 1952. Ideen II: Phänomenologische Untersuchungen zur Konstitution
  • 1952. Ideen III: Die Phänomenologie und die Fundamente der Wissenschaften

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Edmund Husserl. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Awst 2019.

Darllen pellach golygu

  • J. N. Mohanty, The Philosophy of Edmund Husserl: A Historical Development (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2008).
  • J. N. Mohanty, Edmund Husserl's Freiburg Years, 1916-1938 (New Haven, Conntecticut: Yale University Press, 2011).
  • Maurice Natanson, Edmund Husserl: Philosopher of Infinite Tasks (Evanston, Illinois: Northwestern University Press, 1973).