Edmwnd Tudur

pendefig

Roedd Edmwnd Tudur (Edmund Tudor) (11 Mehefin 14313 Tachwedd 1456) yn fab i Catrin o Valois ac naillai Owain Tudur neu Edmund Beaufort. Roedd yn dad i Harri VII, brenin Lloegr.

Edmwnd Tudur
Ganwydc. 1430 Edit this on Wikidata
Much Hadham Hall Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1456, 1 Tachwedd 1456 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadOwain Tudur Edit this on Wikidata
MamCatrin o Valois Edit this on Wikidata
PriodMargaret Beaufort Edit this on Wikidata
PlantHarri VII Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Valois, tuduriaid Edit this on Wikidata

Gwnaeth ei hanner brawd, Harri VI, brenin Lloegr, ef yn Iarll Richmond ar 23 Tachwedd 1452 a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn 1455 priododd Margaret Beaufort pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a ganed un mab iddi: Harri (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.

Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, Swydd Hertford. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan Katherine de la Pole, Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys Harri VI, brenin Lloegr i'w haddysgu.[1] Cafodd Edmwnd aros yn y Llys[1]. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel Iarll Richmond ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn Iarll Penfro. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.

Genedigaeth: pwy oedd ei Dad? golygu

 
Arfau Edmwnd Tudur

Ar ôl marwolaeth Harri V brenin Lloegr, cafodd y frenhines waddol Catherine o Valois berthynas ym 1427 ag Edmund Beaufort. Arweiniodd hyn at statud seneddol i reoleiddio ailbriodi breninesau Lloegr. Yna priododd Catherine ag Owen Tudur yn gyfrinachol er mwyn osgoi torri deddfau 1227/8 a daeth ei pherthynas â Beaufort i ben, er ei bod yn bosibl mai mab biolegol oedd Edmund Tudur. Ni wyddys union ddyddiadau geni Edmund Tudur a phriodas Catherine ac Owen.[2][3]

Mae rhai haneswyr wedi awgrymu i Edmund Tudor gael ei enwi ar ôl Edmund Beaufort a dywed yr hanesydd John Ashton-Hill fod yr arfbais a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach gan Edmund a Jasper Tudur mewn gwirionedd yn deillio o un Edmund Beaufort.[4]

Marw golygu

 
Beddrod Edmwnd Tudur yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin i roi trefn ar Dde Cymru, gan nad oeddent yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn Rhyfel y Rhosynnau, gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda Lancastriaid a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r Iorciaid. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.

Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r Dauphin a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou: deuddeg. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri. Yn dilyn marwolaeth Edmwnd cymerodd Siasbar ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross gorseddwyd Edward IV yn frenin a dihangodd Sisbar, Harri a'i wraig Margaret i'r Alban, Ffrainc, Llydaw a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Edward.

Ar 1 Tachwedd 1456 bu farw Edmwnd;[5] ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nghastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain.

Llinach golygu

Yn ogystal â Siasbar roedd gan Edmwnd frawd o'r un enw a'i dad (Owain) a fu'n fynach, a chwaer o'r enw Marged a fu farw'n ifanc. Roedd y Tuduriaid yn deulu uchelwrol iawn, ond teulu a gollasant eu tiroedd oherwydd iddynt fod yn driw i Glyn Dwr yn ystod ei wrthryfel. Edrychwyd ar Owain gan y Saeson, felly, fel rebel eilradd nad oedd hawl ganddo gario arfau na dal swydd. Mae ei garwriaeth gyda Chatherine felly'n dipyn o ryfeddod i'r hanesydd.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Ednyfed Fychan
m. 1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ab Ednyfed
m. 1268
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Tudur Hen
(hefyd Tudur ap Goronwy)
m. 1311
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
m. 1331
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Elen ferch Tomos
(mam Owain Glyn Dŵr)
 
 
Marged ferch Tomos
 
 
Tudur ap Goronwy
d. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Maredudd ap Tudur
m.1406
 
Rhys ap Tudur
d. 1409
 
Gwilym ap Tudur
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur
(m.1461)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Edmwnd Tudur
d. 1456
 
Siasbar Tudur
m.1495
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Harri VII
m. 1509

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Edmund Tudor, Duke of Richmond, father of Henry VII, paternal grandfather of Arthur, Margaret, Henry, and Mary Tudor | Flickr – Condivisione di foto!
  2. "Beaufort, Edmund, first duke of Somerset". Oxford Dictionary of National Biography. 23 September 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-07. Cyrchwyd 2023-12-01.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. Harriss, G. L. (1988). Cardinal Beaufort: A Study of Lancastrian Ascendancy and Decline (yn Saesneg). Clarendon Press. t. 178. ISBN 978-0-19-820135-9.
  4. Ashdown-Hill, John (2013-07-01). Royal Marriage Secrets: Consorts and Concubines, Bigamists and Bastards (yn Saesneg). The History Press. tt. 48–56. ISBN 978-0-7524-9420-3.
  5. Miranda Jane Aldhouse-Green; Ralph Alan Griffiths; Raymond Howell; Tony Hopkins (2004). The Gwent County History: The age of the Marcher Lords, c.1070-1536 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 265. ISBN 978-0-7083-2072-3.