Dramodydd Americanaidd oedd Edward Franklin Albee III (12 Mawrth 192816 Medi 2016), yn fwyaf adnabyddus am ddramâu megis The Zoo Story (1958), The Sandbox (1959), Who's afraid of Virginia Woolf? (1962) ac A Delicate Balance (1966). Enillodd tri o'i ddramau'r Wobr Pulitzer ar gyfer Drama, ac enillodd dau o'i ddramau eraill y Wobr Tony am y ddrama orau.

Edward Albee
GanwydEdward Franklin Albee Edit this on Wikidata
12 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 2016 Edit this on Wikidata
o diabetes Edit this on Wikidata
Montauk Edit this on Wikidata
Man preswylWashington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Choate Rosemary Hall
  • Trinity College
  • Lawrenceville School
  • Rye Country Day School
  • Valley Forge Military Academy and College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, academydd, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Houston Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWho's Afraid of Virginia Woolf?, The Goat, or Who Is Sylvia? Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAugust Strindberg, Samuel Beckett Edit this on Wikidata
PartnerTerrence McNally Edit this on Wikidata
PerthnasauReed A. Albee Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Medal Celf Cenedlaethol, Nestroy Award, Gwobr America am Lenyddiaeth, Tony Award for Best Play, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Anrhydedd y Kennedy Center, Drama Desk Award for Outstanding Play, Tony Award for Best Play, Drama Desk Special Award, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Hull-Warriner Award, PEN/Laura Pels International Foundation for Theater Award, Evelyn F. Burkey Award Edit this on Wikidata

Mae ei ddramâu yn aml yn cael eu hystyried fel ymchwiliadau didwyll i'r cyflwr modern. Ei weithiau cynnar yn adlewyrchu meistrolaeth ac Americaneiddio y Theatr yr Absẃrd a daeth i'w hanterth yng ngwaith dramodwyr Ewropeaidd megis Arthur Adamov Samuel Beckett, Eugène Ionesco, a Jean Genet.

Mae ei gyfnod canol yn cynnwys dramâu sy'n edrych ar  seicoleg o aeddfedu, priodas, a pherthnasu rhywiol. Bu nifer o ddramodwyr Americanaidd iau, megis Paula Vogel, yn credydu cymysgedd Albee o waith theatrig dewr a deialog  brathog am helpu i ail greu'r theatr Americanaidd yn y 1960au cynnar. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu Albee yn parhau i arbrofi dulliau theatrig mewn cynyrchiadau megis The Goat, or Who Is Sylvia?  (2002).

Bywyd cynnar golygu

 
Edward Albee gan yr artist Gwyddelig Reginald Gray (Y New York Times, 1966), a ysbrydolwyd gan lun a dynnwyd ym 1962 gan Bettmann/Corbis

Cafodd Edward Albee ei eni ym 1928 a chafodd ei fabwysiadu pythefnos wedyn a'i ddwyn i Larchmont, Efrog Newydd, lle cafodd ei fagu. Roedd tad mabwysiadol Albee Reed  A. Albee, yn fab cyfoethog Edward Franklin Albee II, perchennog nifer o theatrau Fodfil. Roedd ei fam fabwysiadol, a thrydedd wraig Reed, Frances (Cotter), yn cymdeithaswraig.[1][2] Byddai ef yn ddiweddarach yn sylfaenu prif gymeriad ei ddrama 1991 chwarae Three Tall Women ar ei lysfam, gyda'r hon bu ganddo berthynas cymysglyd.[3]

Mynychodd Albee Ysgol Uwchradd Lawrenceville yn New Jersey, o ba le cafodd ei ddiarddel. Wedyn cafodd ei anfon i Academi Filwrol Valley Forge yn Wayne, Pennsylvania, gan gael ei ddiarddel eto mewn llai na blwyddyn.[4] Wedyn cafodd ei danfon i Ysgol Choate yn Wallingford, Connecticut,[5] gan raddio ym 1946. Cafodd ei addysg ffurfiol ei barhau yn Trinity Collage, Hartford, Connecticut, gan gael ei ddiarddel ym 1947 am fethu dosbarthiadau a gwrthod mynychu gwasanaethau capel gorfodol.

Gyrfa golygu

Symudodd Albee i Greenwich Village, Efrog Newydd lle fu'n ennill ei damaid trwy wneud man swyddi wrth ddysgu sut i ysgrifennu dramâu.[6] Ei ddrama gyntaf, The Zoo Story, ei hysgrifennu mewn tair wythnos [7] a'i llwyfannu am y tro cyntaf y Merlin ym 1959 cyn cael ei berfformio mewn theatrau ger Broadway ym 1960.[8] Cafodd ei ail ddrama The Death of Bessie Smith, hefyd ei berfformio am y tro cyntaf ym Merlin cyn cyrraedd Efrog Newydd.[9]

Cafodd drama fwyaf eiconig Albee, Who's afraid of Virginia Woolf?, ei berfformio ar Broadway yn y Theatr Billy Rose rhwng 13 Hydref, 1962, a 16 Mai, 1964, wedi 664 o berfformiadau.[10] Cafodd y perfformiad dadleuol ei enwebu ar gyfer y Wobr Tony am y Ddrama Orau ym 1963 a chafodd ei ddewis ar gyfer Gwobr Pulitzer 1963 gan reithgor y wobr drama. Penderfynodd y pwyllgor ymgynghorol i fynd yn groes i'r rheithgor gan ddewis peidio â rhoi gwobr ddrama o gwbl.[11] Bu dau aelod o'r rheithgor, John Mason Brown a John Gassner, ymddiswyddo mewn protest.[12] Ym 1966, enillodd addasiad ffilm o'r ddrama Oscar, gydag Elizabeth Taylor, Richard Burton, George Segal, a Sandy Dennis ymhlith yr actorion. Yn 2013, cafodd y ffilm ei dewis ar gyfer cadwraeth yng Nghofrestrfa Genedlaethol Ffilm y Llyfrgell y Gyngres fel cynhyrchiad sydd "yn sylweddol yn ddiwylliannol, hanesyddol neu esthetig ".[13]

Yn ôl y New York Times, roedd Albee "yn cael ei ystyried o fod yn ddramodydd mwyaf blaenllaw Americanaidd  ei genhedlaeth."[14]

Cyflawniadau ac anrhydeddau golygu

Cafodd Albee ei benodi yn aelod o Gyngor Urdd y Dramodwyr. Enillodd tair Gwobr Pulitzer am ddrama - am A Delicate Balance (1967), Seascape (1975), a Three Tall Women (1994).

Cafodd Albee ei ethol yn Gymrawd yr Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau ym 1972.[15] Yn 1985, cafodd Albee ei urddo i Neuadd Enwogion y Theatr Americanaidd .[16] Ym 1999, derbyniodd Albee Gwobr Ryngwladol Sefydliad PEN/Laura Pels ar gyfer y Theatr  fel Meistr Dramodydd Americanaidd.[17] Cafodd  Wobr Tony Arbennig am Gyflawniad Oes yn 2005; y Fedal Aur mewn Drama gan Academi Americanaidd a Sefydliad y Celfyddydau a Llythyrau (1980); yn ogystal ag Anrhydedd y Kennedy Center  a Medal Genedlaethol y Celfyddydau ym 1996.[18] Yn 2009, derbyniodd Albee derbyn gradd er anrhydedd gan Academi Genedlaethol Theatr a Ffilm Celfyddydau Bwlgaria (NATFA). 

Bywyd personol a marwolaeth golygu

Roedd Albee yn hoyw,[19] ond yn mynnu nad oedd am i fod yn ei adnabod fel "awdur hoyw", ond fel awdur sy'n digwydd bod yn hoyw."[20]

Bu farw Albee yn ei gartref yn Montauk, Efrog Newydd, yn 88 mlwydd oed.[21][22]

Dramau golygu

  • The Zoo Story (1959)
  • The Death of Bessie Smith (1960)
  • The Sandbox (1960)
  • Fam and Yam (1960)
  • The American Dream (1961)
  • Bartleby (addasiad o stori fer Herman Melville (1961)*Who's Afraid of Virginia Woolf? (1962)
  • The Ballad of the Sad Café (1963) (addasiad o novella Carson McCullers)
  • Tiny Alice (1964)
  • Malcolm (1966) (addasiad o nofela James Purdy)*A Delicate Balance (1966)
  • Breakfast at Tiffany's (addasiad o nofel Truman Capote) (1966)
  • Everything in the Garden (addasiad o ddrama Giles Cooper) (1967)
  • Box and Quotations from Chairman Mao Tse-Tung (1968)
  • All Over (1971)
  • Seascape (1975)
  • Listening (1976*Counting the Ways (1976)
  • The Lady from Dubuque (1980)
  • Lolita (addasiad o nofel Vladimir Nabokov) (1981)
  • The Man Who Had Three Arms (1982)*Finding the Sun (1983)
  • Walking (1984)
  • Envy (1985)
  • Marriage Play (1987)
  • Three Tall Women (1991)
  • The Lorca Play (1992)
  • Fragments (1993)
  • The Play About the Baby (1998)
  • The Goat, or Who Is Sylvia? (2000)
  • Occupant (2001)
  • Knock! Knock! Who's There!? (2003)
  • Peter & Jerry, ailenwyd yn 2009 i At Home at the Zoo (Act Un: Homelife. Act Dau: The Zoo Story) (2004)
  • Me Myself and I (2007)[23]

Cyfeiriadau golygu

  1. Weber, Bruce (September 17, 2016). "Edward Albee, Trenchant Playwright for a Desperate Era, Dies at 88". The New York Times.
  2. Thorpe, Vanessa (September 17, 2016). "Edward Albee, Who's Afraid of Virginia Woolf? playwright, dies aged 88". The Guardian. Cyrchwyd September 17, 2016.
  3. "Albee Mines His Larchmont Childhood". www.nytimes.com. Cyrchwyd 2017-03-08.
  4. Simonson, Robert (September 16, 2016). "Edward Albee, Towering American Playwright, Dies at 88". Playbill. Cyrchwyd September 17, 2016.
  5. Boehm, Mike (September 16, 2016). "Edward Albee, three-time Pulitzer-winning playwright and 'Who's Afraid of Virginia Woolf?' author, dies at 88". The Los Angeles Times. Cyrchwyd September 17, 2016.
  6. Kennedy, Mark (September 16, 2016). "Who's Afraid of Virginia Woolf? playwright Edward Albee dead at 88". Associated Press. Cyrchwyd September 17, 2016.
  7. Reuben, Paul P. "Chapter 8: Edward Albee." Archifwyd 2012-07-16 yn Archive.is, Perspectives in American Literature- A Research and Reference Guide, Retrieved June 28, 2007
  8. "Plays Produced in the Provincetown Playhouse in 1960s Chronological". Provincetown Playhouse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-24. Cyrchwyd 2012-09-02.
  9. Albee, Edward."The Death of Bessie Smith"The American Dream ; The Death of Bessie Smith ; Fam and Yam: Three Plays. Dramatists Play Service, Inc., 1962, ISBN 0-8222-0030-9, pp.46-48
  10. [1]"Who's Afraid of Virginia Woolf?," Playbill Vault. Retrieved 15 December 2015
  11. "US playwright Edward Albee dies aged 88". BBC News. September 17, 2016. Cyrchwyd September 19, 2016.
  12. Kihss, Peter (May 2, 1967). "Albee Wins Pulitzer Prize; Malamud Novel is Chosen". The New York Times. Cyrchwyd September 19, 2016.
  13. "Library of Congress announces 2013 National Film Registry selections" (Press release). Washington Post. December 18, 2013. https://www.washingtonpost.com/entertainment/movies/library-of-congress-announces-2013-national-film-registry-selections/2013/12/17/eba98bce-6737-11e3-ae56-22de072140a2_story.html?tid=hpModule_ef3e52c4-8691-11e2-9d71-f0feafdd1394. Adalwyd December 18, 2013.
  14. "Edward Albee, Trenchant Playwright Who Laid Bare Modern Life, Dies at 88". NY Times. September 17, 2016. Cyrchwyd December 16, 2016.
  15. "Book of Members, 1780–2010: Chapter A" (PDF). American Academy of Arts and Sciences. Cyrchwyd April 6, 2011.
  16. "Broadway's Best". March 5, 1985.
  17. "Winners of the PEN/Laura Pels International Foundation for Theater Awards | PEN America". PEN. Cyrchwyd September 20, 2016.
  18. "Who We Are". The Edward F. Albee Foundation. Cyrchwyd September 20, 2016.
  19. Shulman, Randy (March 10, 2011). "Who's Afraid of Edward Albee?". Metro Weekly. http://www.metroweekly.com/feature/?ak=6070.
  20. "Playwright Edward Albee defends 'gay writer' remarks". National Public Radio. June 6, 2011.
  21. Howard, Adam (September 16, 2016). "Pulitzer Prize-Winning Playwright Edward Albee Dead at 88". NBC News. Cyrchwyd September 17, 2016.
  22. Jones, Chris (September 16, 2016). "Pulitzer Prize-winning playwright Edward Albee dies at age 88". Chicago Tribune. Cyrchwyd September 17, 2016.
  23. "Works". Edward Albee Society. Cyrchwyd 5 Medi 2018.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu