Edward Evan

gweinidog Presbyteraidd, a bardd

Bardd Cymraeg oedd Edward Evan (Mawrth 171621 Mehefin 1798).

Edward Evan
GanwydMawrth 1716, 1716 Edit this on Wikidata
Llwydcoed Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1798, 1798 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd yn frodor o blwyf Aberdâr, Morgannwg (Rhondda Cynon Taf heddiw), lle y'i ganed yn 1716. Gweithiodd fel prentis saer yn ei ieuenctid ond yn ddiweddarach prynodd fferm a daeth yn weinidog Presbyteraidd. Bu farw yn 1798.[1]

Fe'i cofir am ei unig gyfrol o gerddi, Caniadau Moesol a Duwiau, a gyhoeddwyd yn 1804 chwe mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Roedd yn gyfrol boblogaidd iawn a ailargraffwyd dair gwaith dan y teitl Afalau'r Awen.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.