Edward Richard

ysgolfeistr, ysgolhaig a bardd

Bardd ac ysgolhaig o Geredigion oedd Edward Richard (mis Mawrth 17144 Mawrth 1777). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ddwy fugeilgerdd.[1][2]

Edward Richard
GanwydMawrth 1714 Edit this on Wikidata
Ystrad Meurig Edit this on Wikidata
Bu farw28 Chwefror 1777 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fe'i ganed yn Ystrad Meurig, uwchben Dyffryn Teifi, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Roedd yn fab i deiliwr a thafarnwr. Cafodd ei fam Gwenllian ddylanwad mawr ar y bardd. Roedd ganddo un frawd, Abraham. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin ganddo ar ôl iddo raddio o Brifysgol Rhydychen a dychwelyd i Ystrad Meurig. Aeth Edward i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin lle cafodd ei drwytho yn y clasuron. Pan ddychwelodd i'w fro yn 1736 agorodd ysgol elfennol ac yno y bu am weddill ei oes yn athro ysgol a myfyriwr y clasuron Groeg a Lladin. Ymhlith ei ddisgyblion oedd John Williams, mab William Williams Pantycelyn, Dafydd Ionawr, meibion Lewis Morris ac Ieuan Fardd.

Gwaith llenyddol golygu

Dim on dyrnaid o gerddi Edward Richard a gyhoeddwyd ond mae eu hansawdd yn uchel (credir fod nifer o gerddi eraill, yn ei lawysgrif ei hun, wedi diflannu). Ceir dwy gân werinol am ei fro, emyn, cyfieithiad o faled gan John Gay ac englynion ar farwolaeth plentyn. Ei waith pwysicaf yw'r ddwy fugeilgerdd a gyhoeddwyd yn 1765 a 1776. Mae dyled Edward Richard i'r bardd Groeg Theocritus yn amlwg, ond nid efelychiaid arwynebol ydynt. Mae'r gyntaf yn coffhau ei fam Gwenllian a'r ail yn ymddiddan rhwng dau fugail, Gruffudd a Meurig, sy'n cyfuno elfennau personol a chymdeithasol.

Addfwynder myfyrgar yw prif nodwedd ei waith, ynghyd â naturioldeb a glendid arddull. Gwelir hyn yn ei ddau englyn syml ond trawiadol ar farwolaeth plentyn, er enghraifft. Dyma'r cyntaf:

Trallodau, beiau bywyd - ni welais,
Nac wylwch o'm plegyd;
Iach wyf o bob afiechyd,
Ac yn fy medd, gwyn fy myd.

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith y bardd golygu

Ceir testunau o'r bugeilgerddi a cherddi eraill yn:

Llyfryddiaeth golygu

  • John Gwilym Jones, 'Edward Richard ac Evan Evans (Ieuan Fard)', yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llyfrau'r Dryw, 1966
  • D.G. Osborne-Jones, Edward Richard of Ystradmeurig
  • Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)
  • Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (1924)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwaith Edward Richard, Cyfres y Fil (1912) Bugeilgerdd y Gyntaf ar Wicidestun
  2. Gwaith Edward Richard, Cyfres y Fil (1912) Bugeilgerdd yr Ail ar Wicidestun
  3. Gwaith Edward Richard ar Wicidestun