Edward Williams (diwinydd ac athro Annibynnol)

tiwtor, gweinidog a chlerigwr

Diwinydd ac athro annibynnol oedd Edward Williams (14 Tachwedd 17509 Mawrth 1813). Ganwyd ef yn fab i Thomas ac Anne Williams o Glanclwyd, ger Dinbych. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgolion gramadeg yn Llanelwy, Derwen a Caerwys. Roedd Thomas Jones (Dinbych) yn cyd-ddisgybl iddo yng Nghaerwys. Ymunodd a'r Methodistiaid wedi iddo glywed Daniel Rowland o Langeitho yn pregethu, ond erbyn 1770 roedd Williams wedi dechrau pregethu gyda'r Annibynwyr ac ymrestrodd yn fyfyriwr yn academi Y Fenni. Ordeinwyd yn weinidog yn Ross yn 1775 a galwyd ef i Groesoswallt yn 1777. Roedd yn cadw ysgol yno hefyd, ac yn 1782 symudwyd academi Y Fenni i'r dref a bu dan ei ofal tan 1791. Derbyniodd alwad i Carr's Lane, Birmingham, cyn diwedd 1791 ac ym 1792 daeth yn olygydd yr Evangelical Magazine. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Genhadol Llundain yn 1795. Daeth yn athro yn academi'r Annibynwyr yn Rotherham yn 1795.

Edward Williams
Ganwyd1750 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1813 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Llanelwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig, gweinidog yr Efengyl, tiwtor Edit this on Wikidata

Ffynonellau golygu

Dolenni Allanol golygu