Efelffre

Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru

Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Efelffre. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn nwyrain Sir Benfro.

Efelffre
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaPwyll Pendefig Dyfed Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCantref Gwarthaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaPenfro (cantref), Daugleddau (cantref) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7989°N 4.7423°W Edit this on Wikidata
Map
Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Gorweddai Efelffre yng ngorllewin Cantref Gwarthaf. Roedd yn ffinio â chantref Penfro i'r de, cantref Daugleddau i'r gogledd-orllewin, a chymydau Amgoed a Peuliniog i'r gogledd a Phenrhyn i'r dwyrain, yng Nghantref Gwarthaf ei hun.

Prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol oedd Arberth, lleoliad llys Pwyll yn y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi.

Daeth Efelffre i feddiant Normaniaid de Penfro. Un o ganolfannau eglwysig y cwmwd yn y cyfnod hwnnw oedd Llanbedr Efelffre.

Gweler hefyd golygu