Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Eglwys Gristnogol yn y Deyrnas Unedig yw'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig (Saesneg: United Reformed Church (URC)). Fe'i sefydlwyd yn 1972 trwy uno Eglwys Bresbyteraidd Lloegr a'r Eglwys yr Annibynwyr.

Eglwys Ddiwygiedig Unedig
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol Edit this on Wikidata
Rhan oProtestaniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1972 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd, Disciples Ecumenical Consultative Council Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://urc.org.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn 2016, pleidleisiodd yr Eglwys i ganiatáu i'w heglwysi gynnal priodasau gyfunryw.[1]

Synod Genedlaethol Cymru golygu

Mae Synod Genedlaethol Cymru yn un o dri ar ddeg o Synodau sy’n ffurfio’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig o fewn tair cenedl Cymru, Lloegr a’r Alban. Yng Nghymru, mae’r Synod yn cynnwys 95 o eglwysi lleol ar draws y wlad, tua hanner ohonynt mewn partneriaethau eciwmenaidd. Mae cenhadaeth a gweinidogaeth y rhan fwyaf o’r eglwysi hyn yn cael eu cynnal drwy’r iaith Saesneg, er bod nifer lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel cyfrwng. Cynhelir gwasanaethau naill ai yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog, yn rheolaidd yng Ngofaleth Bannau Brycheiniog, yn enwedig yng Nghapel y Plough, Aberhonddu (URC & UAC), yn URC y Fenni ac yn Capel Sardis, Cwmcamlais (UAC). Yn 2017 mabwysiadodd y Synod Polisi Iaith Gymraeg yn cydnabod fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "United Reformed Church approves gay marriage services - BBC News" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-23.
  2. "Y Synod a'r Iaith Gymraeg", Gwefan Eglwys Ddiwygiedig Unedig; adalwyd 23 Chwefror 2018.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.