Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

eglwys gadeiriol yn Aberhonddu, Powys

Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn nhref Aberhonddu, Powys, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Mae'n canolfan Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a phrif sedd Esgob Abertawe ac Aberhonddu. Nid yw'n hynafol iawn yn ei ffurf bresennol ond mae ei gwreiddiau'n gorwedd yn y 12g a chyfnod y Normaniaid yn Aberhonddu.

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1230 (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
LleoliadAberhonddu Edit this on Wikidata
SirAberhonddu, Aberhonddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr151.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9513°N 3.39182°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolcelf Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iIoan Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Abertawe ac Aberhonddu Edit this on Wikidata

Priordy Ioan Efengylydd golygu

Sedydlwyd Priordy Benedictaidd Ioan Efengylydd tua chanol y 12g pan roddodd yr Arglwydd Bernard Newmarch eglwys Aberhonddu i Abaty Battle yn Sussex. Buasai Gerallt Gymro yn archddiacon yn y priordy yn 1172. Yn ddiweddarach galwodd yno gyda Baldwin, Archesgob Caergaint yn 1188 yn ystod ei daith trwy Gymru yn y flwyddyn honno, ar ei ffordd o Henffordd i dde Cymru. Dyma hoff eglwys Reginald de Braose (m. 1211), tad Gwilym Brewys (m. 1230), cariad Siwan gwraig Llywelyn Fawr, a oedd yn perthyn i deulu lleol de Breos: yr eglwys a garaf fwy na'r lleill i gyd. Cyfrannai ei deulu'n hael i'r eglwys a'r priordy.

Nid oes llawer wedi parhau o'r adeilad Benedictaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13g a'r ganrif olynol. Roedd cymeriad y priordy wedi dirwyio pan ymwelodd Pecham, Archesgob Caergaint yn 1283 a chyhuddo'r prior o fod yn feddw ac anostest. Yn 1291 wyth fynach ac un prior oedd yno a gwerth y priordy yn £122 gan ei wneud yn un o'r cyfoethocaf yng Nghymru.

 
Eglwys Gadeiriol Aberhonddu tua chanol y 19g

Yr eglwys ganoloesol golygu

 
Beddfaen Normanaidd o Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr eglwys yn enwog am ei Chrog. Cerflun anferth o groes Crist oedd hi, yn hongian uwchben yr Ysgrîn a rannai'r eglwys yn ddau - un hanner i'r lleygwyr a'r llall i'r mynachod. "Crog Aberhonddu" oedd ei henw, a cheir nifer o gyfeiriadau ati yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Roedd yn aur i gyd a chredid ei bod yn gallu iacháu'r claf. Roedd pobl yn dod ar bererindod iddi o bob rhan o dde Cymru a'r Gororau.

Cafodd y Grog ei difetha pan ddiddymwyd y priordy yn 1534, ond yn ffodus mae nifer o gerrig bedd canoloesol gyda chroesau blodeuog cerfiedig arnynt i'w gweld o gwmpas yr eglwys o hyd. Mae'r bedyddfaen Normanaidd wedi goroesi hefyd; mae'n enwog am y 30 o gwpannau wedi'u cerfio oddi amgylch ei wefus.


Yr eglwys heddiw golygu

Cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol, fel nifer o eglwysi eraill, yn y 19g. Gyda Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn 1923, crewyd esgobaeth newydd ar gyfer Aberhonddu ac Abertawe gydag eglwys Aberhonddu yn eglwys gadeiriol iddi.

Hefyd yn yr eglwys mae Capel Harvard, capel y South Wales Borderers, y milwyr o dde Cymru a ymladdant ym Mrwydr Rorke's Drift yn Ne Affrica, ynghyd â'u baner ym Mrwydr Isandhlawana (1879).

Llyfryddiaeth golygu

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)