Eglwys Gadeiriol Caerwrangon

Cadeirlan Anglicanaidd a leolir yng Nghaerwrangon, Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Dyma sedd esgob Caerwrangon. Priordy ar gyfer Urdd Sant Bened oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe'i dyrchafwyd i statws cadeirlan yn y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i adeiladwyd rhwng 1084 a 1504 a gellir olrhain yno pob cam yn hanes pensaernïaeth Lloegr yn ystod y canrifoedd hynny: yr addull Normanaidd (Romanésg) yn y gladdgell, y cabidyldy cylchog ac ambell i fan arall, a'r tri math o arddull Gothig Seisnig (Cynnar, Addurnedig a Pherpendicwlar). Ceir nifer fawr o gofadeiladau yno gan gerflunwyr a phenseiri megis Jean-François Roubiliac, Joseph Nollekens, Robert Adam a Francis Chantrey. Fe'i adnewyddwyd yn helaeth rhwng 1857 a 1863 gan A. E. Perkins a George Gilbert Scott. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]

Eglwys Gadeiriol Caerwrangon
Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, gydag Afon Hafren yn y blaendir
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerwrangon Edit this on Wikidata
SirDinas Caerwrangon Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.1887°N 2.2208°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO8500254520 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig, pensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Caerwrangon Edit this on Wikidata

Priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yma ar 13 Hydref 1278.

Detholiad o bobl a gladdwyd yno golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Cathedral Church of St Mary. National Heritage List for England. Historic England. Adalwyd ar 14 Medi 2015.