Eglwys Gadeiriol Rouen

cadeirlan yn Ffrainc

Eglwys gadeiriol Gatholig yn ninas Rouen, Normandi, yw Eglwys Gadeiriol Rouen (Ffrangeg: Cathédrale Notre-Dame de Rouen). Mae'n eglwys arddull Gothig wedi'i chysegru i'r Santes Fair; cychwynnwyd ei hadeiladu yn 1202.

Eglwys Gadeiriol Rouen
Matheglwys gadeiriol Gatholig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôldyrchafael Mair Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1876 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1030 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArchepiscopal Complex of Rouen Edit this on Wikidata
LleoliadRouen Edit this on Wikidata
SirRouen Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau49.4402°N 1.095°E Edit this on Wikidata
Hyd144 metr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethmonument historique classé, monument historique classé, monument historique classé, monument historique classé Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethArchesgobaeth Rouen Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Saif yr eglwys gadeiriol hon ar safle eglwys gynharach a sefydlwyd ar ddiwedd y 4g OC. Ymwelodd yr Ymherodr Siarlymaen a'r eglwys yn 769. Dinistriwyd yr eglwys honno gan y Llychlynwyr yn y 9g. Dechreuwyd y gwaith ar yr eglwys bresennol yn 1202 ond ni chafodd ei chwblhau'n derfynol tan 1880 pan ychwanegwyd tŵr bach ar ben y prif dŵr i'w wneud yr uchaf yn y byd am gyfnod byr. Dioddefodd rhannau o'r adeilad pan fomiwyd Rouen yn Ebrill 1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llenyddiaeth a chelf golygu

Cafodd y llenor Gustave Flaubert, a oedd yn frodor o Rouen, ei ysbrydoli gan y ffenestri gwydr lliw o Sant Julian a'r bas-relief o Salome, ac mae dwy o'r tair stori yn ei Trois contes yn seiliedig arnyn nhw. Ysgrifennodd Joris-Karl Huysmans La Cathédrale am yr eglwys gadeiriol, nofel wedi'i seilio ar astudiaeth fanwl o'r adeilad.

 
Peintiad gan Claude Monet o gadeirlan Rouen yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Peintiad gan Claude Monet o gadeirlan Rouen yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.