Eglwys Nunydd

cronfa ddŵr

Cronfa ddŵr ger Margam ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw cronfa Eglwys Nunydd. Adeiladwyd y gronfa yn wreiddiol i ddarparu dŵr i waith dur Port Talbot yn Margam. Mae gan y gronfa, sy'n rhan o ddalgylch Afon Afan, arwynebedd o 260 acer. Saif gerllaw traffordd yr M4.

Eglwys Nunydd
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5494°N 3.7394°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganTata Steel Europe Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ceir pysgota am frithyll a physgod eraill yma, ac fe'i defnyddir ar gyfer hwylio hefyd.

Yr enw golygu

Mae'n bosib mai enw arall am Non mam Dewi yw Nynid; ymddangosodd yr enw yn gyntaf yn 1543 fel "Egloose Nunney" ond mae'n debycach mai cyfeiriad sydd yma at y Nynnid gwrywaidd. Roedd eglwys ym mhlwyf Margam wedi'i enwi ar ôl sant Nynnid.[1]

Cadwraeth golygu

Mae Cronfa Eglwys Nunydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1972 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Mae ei arwynebedd yn 103.4 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dictionary of Place-names of Wales; Gwasg Gomer, 2007.
  2. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013

Gweler hefyd golygu