"Symudiad" ydy ystyr y gair "cinetig", fel yn y gair "sinema" - lluniau'n symud - ac ystyr egni cinetig ydy'r egni sydd mewn rhyw wrthrych neu gorff oherwydd ei fod yn symud. Daw'r gair "cinetig" o'r gair Groeg, κίνηση (cinesis).

Egni cinetig
Enghraifft o'r canlynolmath o egni Edit this on Wikidata
Mathegni mecanyddol, meintiau sgalar, maint corfforol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r car sglefrio hwn yn cyrraedd anterth ei egni cinetig pan fydd ar waelod y cledrau. Wrth i'r cledrau godi mae'r egni cinetig hwn yn cael ei drosglwyddo yn egni potensial oherwydd disgyrchiant.

Gellir ei ddiffinio fel gwaith mecanyddol sydd ei angen i gyflymu gwrthrych o fas arbennig o'r stad lonydd i'r stad o symud. Drwy dderbyn yr egni hwn drwy fuanedd, mae'r corff yn cadw'r egni cinetig hwn o'i fewn - oni bai fod ei gyflymder yn newid.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.