Math o ddyodiad a gyfansoddir gan law ac eira wedi'i doddi'n rhannol yw eirlaw. Yn wahanol i gesair, nid yw'n galed, ond yn hytrach yn feddal ac yn dryleu, gan gynnwys weithiau grisialau iâ o gynlyniad i blu eira sydd wedi ymdoddi ac ymgyfuno. Ceir fel arfer pan fo'r tywydd mewn cyflwr trosiannol rhwng glaw ac eira, neu eira a glaw.

Eginyn erthygl sydd uchod am y tywydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.