Eirwyn George

bardd a llenor Cymraeg

Bardd, llenor ac awdur yw Eirwyn George (ganwyd 1936). Cafodd ei fagu ar ffermdy Tyrhyg Isaf yn ardal Twffton yng Ngogledd Sir Benfro i’r gogledd o’r Landsker Line (sef y ffin ieithyddol sy'n rhannu'r sir). Mae’n Brifardd y Goron, wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn 1982 ac eto yn 1993. Mae wedi ymgartrefu bellach ym mhentref Maenclochog gyda’i wraig, Maureen, yng ngogledd Sir Benfro.[1]

Eirwyn George
Ganwyd1936 Edit this on Wikidata
Tufton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
'Fel Hyn y Bu' Hunangofiant Eirwyn George
Dwy o Goronau Eirwyn George (Eisteddfod Genedlaethol '82 a '93)

Bywyd Cynnar golygu

Ganed ef yn unig blentyn i Thomas Elwyn ac Emily Louisa ar ôl i’r cwpwl golli mab pan oedd ychydig dros ei flwydd oed o glefyd llid yr ymennydd. Ffermio oedd galwedigaeth ei dad a oedd yn ddyn diwylliedig a fyddai’n llunio penillion ar gyfer dathlu achlysuron arbennig yn yr ardal. Roedd tad ei dad hefyd yn gyfansoddwr a fyddai’n creu penillion crefyddol o bryd i’w gilydd. Symudodd y teulu i fferm Castellhenri yn yr un plwyf pan oedd Eirwyn yn naw oed – fferm mewn ardal amaethyddol sy’n gorwedd yng nghesail y bryniau rhwng pentref Maenclochog a phentref Cas-mael. Oddi yno y mynychodd ysgol Garn Ochr; ysgol fechan ar y ffordd o Faenclochog i Twffton sydd wedi cau ers blynyddoedd erbyn hyn.

Annibynwyr oedd ei rhieni, ac aelodau yng nghapel Seilo, Twffton. Bu Eirwyn ei hun yn aelod o’r capel hwn hefyd ers iddo gael ei dderbyn yn ddeuddeg oed, tan iddo ymaelodi yn y Tabernacl, Manclochog yn 2005.

Bywyd Personol golygu

Priododd â Maureen Lewis ym mis Awst 1981, unig ferch Howard a Megan a chwaer i Roy a oedd yn hanu o bentref Hermon wrth odre’r Frenni Fawr. Wedi iddynt briodi yn 1981, ymgartrefodd y pâr priod ym Maenclochog.  

Addysg golygu

Ni chafodd rhyw lawer o flas ar addysg yn ei ysgol gynradd ac felly penderfynwyd mai derbyn hyfforddiant personol yn y cartref oedd yr opsiwn orau iddo wrth sefyll arholiadau’r 11+. Llwyddodd yn yr arholiadau ac aeth ymlaen i dderbyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Arberth. Bu’n lletya yn y dref tra’n fyfyriwr yno am dair blynedd gyda thri o fechgyn eraill – Les Williams o Fynachlog-ddu a’r ddau frawd John a Gwilym Williams o Lys-y-Frân. Sam Evans oedd y prifathro ar y pryd. Symudodd yn ôl adref i ffermio pan oedd yn bymtheg oed oherwydd i’w dad gael damwain ddifrifol. Ar ôl ffermio yng Nghastellhenri am ddeuddeg mlynedd, â iechyd ei dad yn gwaethygu, aeth i astudio i Goleg Harlech yn 1964 pan oedd yn 28 mlwydd oed. Cyfle i oedolion i ailafael yn awenau addysg oedd yr ‘academi’ yn Nyffryn Ardudwy, a choleg nad oedd yn gofyn am unrhyw gymwysterau mynediad. Nid oedd y coleg yn cynnig unrhyw dystysgrifau. Wyth Cymro Cymraeg yn unig oedd yn mynychu’r coleg ar y pryd, gan gynnwys cyfeillion i Eirwyn, Glan Jones o Lan-saint a Basil Hughes o Langennech. Cymraeg oedd prif bwnc Eirwyn yn y coleg a thra’n fyfyriwr yno, bu’n cynrychioli Coleg Harlech yn Ymryson Areithio Colegau Cymru gyda’r BBC yn Aberystwyth. Ysgrifennodd draethawd ymchwil ar y testun ‘Delweddau Gwenallt’ i roi cynnig am Mature State Scholarship gan sicrhau mynediad i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd ei gyfweld ar gyfer yr ysgoloriaeth yn Llundain gan banel o bum ysgolhaig gan sicrhau ei le yn y Coleg Ger y Lli.

Aeth ymlaen i astudio Cymraeg, Hanes Cymru ac Addysg yn Aberystwyth. Bu Gwenallt, testun ei draethawd ymchwil yng Ngholeg Harlech a’i hoff fardd, yn ddarlithydd arno yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1966 yng Nghaerdydd gyda’i gerdd ‘Darganfod’. Yn ystod ei ail flwyddyn yn Aberystwyth, cafodd ei ethol yn llywydd Taliesin, cymdeithas Adran y Gymraeg. Bu hefyd yn drefnydd Cymdeithas y Celfau Creadigol – dosbarth a sefydlwyd gan Bobi Jones a oedd yn denu myfyrwyr oedd â gwir ddiddordeb mewn barddoniaeth at ei gilydd i drin a thrafod cerddi.

Graddiodd Eirwyn o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth â gradd anrhydedd yn y Gymraeg cyn mynd ati dwy flynedd yn ddiweddarach i ddilyn cwrs Ymarfer Dysgu yn Aberystwyth am flwyddyn. Dewisodd Addysg i Oedolion fel rhan o’r cwrs Ymarfer Dysgu ac un o’r amodau oedd mynychu o leiaf chwech o ddosbarthiadau nos. Ymunodd â dosbarth y Tad John FitzGerald ar ‘Meddwl Llenorion Cymraeg yr Ugeinfed Ganrif’ yn Aberystwyth. Treuliodd gyfnodau o ymarfer dysgu yn Ysgol y Preseli ac Ysgol Uwchradd Tregaron.

Gyrfa golygu

Wedi iddo adael Ysgol Ramadeg Arberth yn bymtheg oed, aeth adref i ffermio yng Nghastellhenri am ddeuddeg mlynedd. Ar ôl treulio cyfnod yn astudio yng Ngholeg Harlech ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, aeth ati i dreulio blwyddyn yn yr Adran Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth fel Cynorthwyydd Ymchwil i baratoi Geiriadur Termau ar gyfer dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol a choleg. Ar ôl cwblhau ei ymarfer dysgu, cafodd swydd fel athro yn Ysgol Uwchradd Arberth sef ei hen ysgol ramadeg. Penodwyd Eirwyn i ddysgu’r Gymraeg drwy’r ysgol ynghyd â Hanes i’r dosbarthiadau uchaf. Ar ôl blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Arberth, cafodd swydd fel athro yn Ysgol y Preseli, Crymych. Yma, roedd Eirwyn yn dysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn bennaf, ynghyd â Hanes drwy gyfrwng y Gymraeg i rai o’r dosbarthiadau uchaf. Buodd yn gyfrifol am Adran yr Urdd yn ystod ei gyfnod fel athro yno.

Ar ôl treulio pum mlynedd fel athro yn Ysgol y Preseli, aeth i ymuno â staff Llyfrgell Dyfed yn 1975. Cafodd ei benodi yn Drefnydd Diwylliant cyn i deitl y swydd cael ei newid yn ddiweddarach i Lyfrgellydd Gweithgareddau. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys sefydlu a threfnu Grwpiau Trafod Llyfrau; paratoi cwis llyfrau i blant ysgol, ieuenctid ac oedolion; darparu cystadlaethau arlunio ac ysgrifennu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd; a threfnu Gŵyl y Llyfrgell ym mis Mawrth. Roedd rhaglen yr Ŵyl yn cynnwys darlithiau o bob math, cyfarfod awduron, Noson Lawen y Dysgwyr a chyflwyniadau cerddorol a dramatig.

Yn ystod ei amser fel Llyfrgellydd Gweithgareddau, cafodd ei ryddhau o’i ddyletswyddau am naw mis i ddilyn cwrs proffesiynol yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth. Un rhan o’r cwrs oedd cyfnod o brofiad gwaith mewn rhyw lyfrgell arall. Aeth i weithio yng Nghanolfan Llyfrgell Clwyd yn yr Wyddgrug am fis, lle cafodd y cyfle i gydweithio ag Einion Evans (y Prifardd yn ddiweddarach.) Cangen arall o waith Eirwyn fel Llyfrgellydd Gweithgareddau oedd mynd ati i recordio pobl yn hel atgofion ar dâp ac yna byddai’r sgyrsiau’n cael eu trosglwyddo i gasetiau wedyn a’u rhoi ar fenthyg gan y Llyfrgell. Bu Eirwyn, fel rhan o’i waith yn y Llyfrgell, yn gyfrifol am greu cynllun a oedd yn dwyn y teitl ‘Arlunydd y Mis’; cynllun a oedd yn gwahodd arlunwyr lleol, un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn, i arddangos tua deunaw o beintiadau o’u gwaith yn adran fenthyca Llyfrgell Hwlffordd. Bu Eirwyn hefyd yn gyfrifol am drefnu arddangosfa o waith yr arlunydd Aneurin Jones o Aberteifi yn Llyfrgell Abergwaun ym mis Awst 1986. Treuliodd bymtheg mlynedd yn gweithio fel Llyfrgellydd Gweithgareddau yn Llyfrgell Hwlffordd cyn ymddeol yn 1990.

Cystadlu golygu

Aeth Eirwyn ati i gystadlu am y gadair am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Clunderwen 1959. Testun y Gadair y flwyddyn honno oedd: ‘Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell: “Y Ffordd Fawr”.’ Cyfansoddwyd y gerdd yn yr awyr agored. Enillodd y Gadair ar ei gynnig cyntaf, er mawr syndod i’w dad, na goeliodd ei fod wedi ennill y wobr tan iddo ddarllen am yr hanes yn y Western Mail drannoeth. Wedi iddo ennill y Gadair yn Eisteddfod Clunderwen, aeth ati i gyfansoddi yn gyson ar gyfer cystadleuaeth y Gadair mewn amryw o eisteddfodau lleol. Yn ystod blynyddoedd cynnar y 60au, enillodd ugain o gadeiriau mewn llai na thair blynedd. Neilltuwyd ystafell gyfan yn ei gartref a’i galw yn Stafell y Cadeiriau. Ymunodd â Chymdeithas Fforddolion Dyfed yn ardal Crymych o dan berswâd Lyn John o Flaenffos. Yng nghyfarfodydd y Fforddolion y daeth i gysylltiad â nifer o feirdd blaenllaw am y tro cyntaf a bu’r gwmnïaeth yn hwb iddo wrth geisio mynd i’r afael â barddoni o ddifrif. Yn ystod y cyfarfodydd hyn y bu iddo gwrdd â phrifardd am y tro cyntaf, a hwnnw oedd W J Gruffydd.

Oes aur eisteddfodol Eirwyn, heb os, oedd blynyddoedd cynnar y chwe degau. Penderfynodd Eirwyn gystadlu ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982. Y testun oedd ‘Y Rhod’ a daeth yr ysfa heibio iddo gyfansoddi dilyniant o gerddi i rod amser mewn perthynas ag wyth o leoedd yn Sir Benfro. Aeth ati i gyfansoddi yn ystod pythefnos o eira a gafwyd ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Daeth y newyddion  i Eirwyn ei fod wedi ennill y Goron ddeng niwrnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynach oedd ei ffugenw a choronwyd ef gan yr Archdderwydd ar y pryd, James Nicholas a oedd yn Brifathro yn Ysgol y Preseli pan oedd Eirwyn yn aelod o staff yno. Coronwyd ef ar ei draed; yr unig berson i gael ei goroni yn y fath ffordd yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol! Wedi iddo ennill y Goron yn Abertawe, aeth ati i gystadlu ar y gystadleuaeth unwaith yn rhagor. Y flwyddyn ddilynol, dyfarnwyd ei bryddest ‘Clymau’ yn yr ail safle, yn ôl Dr John Gwilym Jones a oedd yn traddodi’r feirniadaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni. Y flwyddyn ddilynol yn Llanbedr Pont Steffan, dyfarnwyd ei bryddest ‘Llygaid’ yn ail gan un o’r beirniaid ac yn drydydd gan y ddau arall. Y flwyddyn wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, gosodwyd ei ddilyniant o gerddi ‘Glannau’ yn y dosbarth cyntaf gan y tri beirniad hefyd. Aeth yn ei flaen wedyn i ennill ei ail Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993. ‘Llynnoedd’ oedd testun y gystadleuaeth. Pryddest oedd ei gerdd fuddugol ac ynddi mae Eirwyn yn ymateb i amgylchiadau pump o gleifion sy’n byw mewn cartref.

Gwleidyddiaeth golygu

Mae Eirwyn yn genedlaetholwr, a chyn dechrau yn y Brifysgol hyd yn oed, roedd yn aelod o gangen Maenclochog o Blaid Cymru. Daeth i gysylltiad agos â D. J. Williams, Abergwaun, yn fuan wedi iddo adael yr ysgol. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol 1966. E G Millward oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion y flwyddyn honno a bu Eirwyn yn canfasio drosto adeg gwyliau’r Pasg. Daeth yn aelod o Gymdeithas yr Iaith ar ddechrau ei gyfnod yn Aberystwyth a dechreuodd gymryd rhan ym mhrotestiadau Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Seisnigrwydd y swyddfeydd post. Bu’n gorymdeithio yn Nolgellau, Machynlleth ac yn Llambed. Roedd hefyd yn un o’r criw a feddiannodd Swyddfa’r Post yn Aberystwyth. Penderfynodd peidio â dangos disg treth ei gar, am ei fod yn uniaith Saesneg, drwy gydol y pum mlynedd a dreuliodd yn y Brifysgol. Dangosodd ddisg du â’r geiriau ‘Disg Cymraeg Nawr’  mewn llythrennau gwyn a ddarparwyd gan Gymdeithas yr Iaith ar sgrin ei gar tan i’r awdurdodau ddarparu disg dwyieithog. Bu Etholiad Cyffredinol arall tra oedd Eirwyn yn fyfyriwr yn Aberystwyth, a hynny ar ei dymor olaf yno. Ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion y tro hwn oedd Hywel ap Robert a bu Eirwyn yn canfasio eto ar ran y Blaid.

Cadeiriau golygu

  • Abercuch 1963 - (Chwech o benillion telyn)
  • Gŵyl Fawr Aberteifi 1972 - (Pryddest - 'Yr Alltud')
  • Bancyfelin 1964 - (Pryddest mewn mesur ac odl - 'Pencampwyr')
  • Brechfa 1964 - (Mesur Madog - 'Etifeddiaeth')
  • Bwlchygroes 1964 - (Darn Adrodd)
  • Catwg, Castell Nedd 1963 - (Awdl - 'Yr Arwr')
  • Clunderwen 1959 - (Pryddest - 'Y Ffordd Fawr')
  • Clunderwen 1964 [Eisteddfod Ieuenctid] - (Pryddest - 'Y Ddawns')
  • Clunderwen 1981 - ('Caethiwed')
  • Crymych 1964 - (Baled - Agored)
  • Drefach Felindre 1965 - (Awdl - 'Y Cristion')
  • Dyffryn Ogwen 1965 - (Mesur Madog - 'Creithiau')
  • Gwernllwyn 1964 - (Mesur Madog - 'Y Frwydr')
  • Gwernllwyn 1967 - (Tair Soned)
  • Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan 1971 - (Pryddest - 'Galwedigaeth')
  • Llanboidy 1965 - (Pryddest - 'Y Deffro')
  • Llandeilo 1974 - (Dilyniant o gerddi vers libre - 'Anial Dir')
  • Llanilar 1967 - (Baled Agored)
  • Llanrhystud 1963 - ('Yr Ynys' - Mesur Madog)
  • Llanrhystud 1965 - ('Anobaith' - Mesur Madog)
  • Llanuwchllyn 1965 - (Mesur Madog - 'Y Mynydd')
  • Maenclochog 1988 - ('Y Galilead')
  • Talaith a Chadair Powys 1973 - (Pryddest - 'Rhyddid')
  • Pumsaint 1963 - (Mesur moel - 'Y Cewri')
  • Yr Eisteddfod Ryng-Golegol 1966 (Caerdydd) - ('Darganfod')
  • Tregaron 1965 - ('Y Llechwedd' - Mesur Madog)

Eisteddfod Genedlaethol golygu

  • Y Goron: Abertawe 1982- (Dilyniant o Gerddi)
  • Y Goron: Llanelwedd 1993- (Llynnoedd)
  • Cerddi Caeth: Wyth englyn serch, 1993; awdl fer 'Ynys', 1999; cerdd ar batrwm un o ugeneidiau Euros Bowen, 2001; cerdd gynganeddol 'Syrcas', 2004; cerdd ar fesur newydd 'Magl', 2004; cerdd vers libre 'Dychwelyd', 2005.
  • Cerddi Rhydd: Y Delyneg 'Gwreichion', 1976; wyth o dribannau 'Y Byd Sydd Ohoni', 1993; Haicw (30 mewn nifer), 1999; Blodeugerdd Bro, 2013.
  • Rhyddiaith: Ysgrif Goffa, 1992; Stori fer, 'Gwewyr' 1999; Tywys-daith o gwmpas cofebau Bro'r Preseli, 1997; Blog Teithio, 2015.
  • Bu hefyd yn beirniadu yn y Genedlaethol bump o weithiau

Gwobrau Eisteddfodol Eraill golygu

  • Y Goron: Llanbedr Pont Steffan 1977 ('Tair Soned')
  • Y Goron: Llanbedr Pont Steffan 1979 ('20 o Benillion Telyn')
  • Y Fedal Ryddiaith: Llanbedr Pont Steffan 1991 ('Cymeriadau Diddorol')
  • Y Fedal Ryddiaith: Eisteddfod Môn 1994 ('Bro')

Llyfrau golygu

  • O’r Moelwyn i’r Preselau, ar y cyd â T R Jones: Gomer, 1975. Casgliad o gerddi o waith y ddau fardd. Ysgrifennwyd y gyfrol mewn cyfnod o bum mlynedd ac mae’n ymrannu’n fras i ddau ddosbarth: cerddi hanes a cherddi mawl i bersonau.
  • Abergwaun a’r fro (gol.): Christopher Davies, 1986. Dilyniant o ysgrifau comisiwn gan ddeunaw o awduron yn ymdrin â gwahanol agweddau ar hanes Sir Benfro. Cyhoeddwyd yn y gyfres ‘Bro’r Eisteddfod’.
  • Y Corn Gwlad (gol.), ar y cyd â W R Nicholas: Gwasg Gee, 1989. Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith gan rai o’n hawduron blaenllaw wedi eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y gyfrol hon.
  • Llawlyfr y Dathlu (gol.): Tŷ John Pernry, 1990. Braslun o hanes deuddeg o eglwysi Annibynnol gogledd Sir Benfro. Cyhoeddwyd adeg ymweliad Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg â’r ardal.
  • Braslun o Hanes Eglwys Annibynnol Seilo Tufton: E L Jones a’i Fab, 1992. Golwg ar hanes yr eglwys ar achlysur dathlu canmlwyddiant a hanner sefydlu’r achos.
  • Egin Mai (gol.): E L Jones a’i Fab, 1995. Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith disgyblion uwchradd Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Bro’r Preseli 1995.
  • Blodeugerdd y Preselau (gol.): Cyhoeddiadau Barddas, 1995. Blodeugerdd o weithiau 44 o feirdd a fu’n byw yn y fro rywbryd yn ystod blynyddoedd 1969-95 ynghyd â barddoniaeth a ysgrifennwyd yn y cyfnod hwn gan feirdd oedd yn enedigol o’r ardal.
  • Llynnoedd a Cherddi Eraill: Gwasg Gwynedd, 1996. Casgliad o farddoniaeth gaeth a rhydd yr awdur yn cynnwys cerddi a enillodd iddo’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.
  • Meini Nadd a Mynyddoedd: Gomer, 1999. Dwy daith lenyddol a hanesyddol o gwmpas rhai o fannau mwyaf nodedig ardal y Preseli yn cynnwys meini coffa a cherrig chwedlonol a Christnogol o bob math.
  • Estyn yr Haul (gol.): Cyhoeddiadau Barddas, 2000. Blodeugerdd o ryddiaith o waith awduron Sir Benfro yn ymestyn dros ganrif gyfan ynghyd â rhagymadrodd y golygydd ar ddatblygiad y traddodiad rhyddiaith yn y sir o adeg chwedlau’r Mabinogion hyd at drothwy’r ugeinfed ganrif.
  • Gwŷr Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif: Gwasg Gwynedd, 2001. Cyfrol yn ymdrin â gweithiau llenyddol deunaw o awduron a aned yn Sir Benfro yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith greadigol.
  • Gorllewin Penfro: Gwasg Carreg Gwalch, 2002. Cyfrol yn ymdrin â hanes parthau gorllewinol Sir Benfro wedi ei rhannu yn dair adran: (1) O Gwmpas Tyddewi, (2) Abergwaun a’r Cyffiniau, (3) Y De-orllewin. Cyhoeddwyd yn y gyfres ‘Bröydd Cymru’ ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Thyddewi yn 2002.
  • O Gwmpas Maenclochog Mewn Lluniau / Around Maenclochog In Photographs: Clychau Clochog, 2003. Casgliad o 420 o luniau hen a newydd yn bwrw golwg ar ardal Maenclochog a’r cyffiniau. Mae’r testun hwn yn ddwyieithog.
  • Hanes Eisteddfod Maenclochog: E L Jones a’i Fab, 2005. Hanes Eisteddfod Maenclochog ynghyd â rhai o eisteddfodau bach gogledd Sir Benfro. Ceir ynddi amryw o luniau o’r eisteddfodau bach lleol.
  • Cân yr Oerwynt: Cyhoeddiadau Barddas, 2009. Casgliad o farddoniaeth yr awdur yn y cyfnod diweddar.
  • Fel Hyn y Bu: Y Lolfa, 2010. Hunangofiant yr awdur yn dadlennu gyrfa amrywiol iawn a hefyd yn dangos ei adnabyddiaeth o gymeriadau distadl a di-nod ynghyd â rhai o ysgolheigion amlycaf y genedl.
  • Hiwmor Y Preseli: Y Lolfa, 2011. Rhan o gyfres ‘Ti’n Jocan’. Awn ar daith gyda’r awdur o gwmpas ei ardal enedigol a chlywed sôn am straeon digri a jôcs.
  • Cynnal y Fflam: Y Lolfa, 2012. Cyfrol amrywiol ei chynnwys yn bwrw golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro ar hyd y blynyddoedd. Cyhoeddwyd i gyd-fynd â chyfarfodydd yr Undeb yn Sir Benfro unwaith eto yn 2012.
  • Waldo Williams, Cymdeithas Waldo, 2013. Tywys-daith i ymweld â lleoedd oedd wedi ysbrydoli Waldo i gyfansoddi nifer o'i gerddi mwyaf nodedig. Y testun Cymraeg gan Eirwyn George ynghyd â chyfieithiad Saesneg gan Damian Walford Davies.
  • Perci Llawn Pobol, (gol.): Gwasg Carreg Gwalch, 2016. Casgliad o ganu beirdd gwlad ardaloedd y Preseli yn cyfarch a choffáu unigolion ynghyd â hanesion cyfoes eu milltr sgwâr.
  • Braslun o Hanes Plwyf Castell Henri, (dwyieithog): E L Jones, 2018.
  • Blodeugerdd Waldo: Teyrnged y Beirdd, (gol.): Y Lolfa, 2020.
  • Dilyn Waldo: Cymdeithas Waldo, 2021.
  • Brethyn Gwlad: E L Jones, 2022.

Llyfryddiaeth golygu

  • O’r Moelwyn i’r Preselau, ar y cyd â T R Jones: Gomer, 1975.
  • Abergwaun a’r fro (gol.): Christopher Davies, 1986.
  • Y Corn Gwlad (gol.), ar y cyd â W R Nicholas: Gwasg Gee, 1989.
  • Llawlyfr y Dathlu (gol.): Tŷ John Pernry, 1990.
  • Braslun o Hanes Eglwys Annibynnol Seilo Tufton: E L Jones a’i Fab, 1992.
  • Egin Mai (gol.): E L Jones a’i Fab, 1995.
  • Blodeugerdd y Preselau (gol.): Cyhoeddiadau Barddas, 1995.
  • Llynnoedd a Cherddi Eraill: Gwasg Gwynedd, 1996.
  • Meini Nadd a Mynyddoedd: Gomer, 1999.
  • Estyn yr Haul (gol.): Cyhoeddiadau Barddas, 2000.
  • Gwŷr Llên Sir Benfro yn yr Ugeinfed Ganrif: Gwasg Gwynedd, 2001.
  • Gorllewin Penfro: Gwasg Carreg Gwalch, 2002.
  • O Gwmpas Maenclochog Mewn Lluniau / Around Maenclochog In Photographs: Clychau Clochog, 2003.
  • Hanes Eisteddfod Maenclochog: E L Jones a’i Fab, 2005.
  • Cân yr Oerwynt: Cyhoeddiadau Barddas, 2009.
  • Fel Hyn y Bu: Y Lolfa, 2010
  • Hiwmor Y Preseli: Y Lolfa, 2011.
  • Cynnal y Fflam: Y Lolfa, 2012.
  • Perci Llawn Pobol (gol.): Gwasg Carreg Gwalch, 2016.

Cyfeiriadau golygu

Darllen Pellach golygu

  • T Gwynn Jones, "Eirwyn George: Dyn ei Fro", Taliesin, Haf 2002
  • Donald Evans, "Ias Sylwedd y Preselau: Golwg ar Farddoniaeth Eirwyn George", Barddas, Mawrth 2005

Dolenni Allanol golygu

http://www.cadeiriau.cymru/