Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.

Plant yn yr eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Bala 1954
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin, 1967.

Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Rhestr Eisteddfodau diweddar golygu

Lleoliadau Eisteddfodau'r Gorffennol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen yn 1929.

Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.

1930au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1930 Caernarfon
1931 Abertawe
1932 Machynlleth
1933 Caerffili
1934 Hen Golwyn
1935 Caerfyrddin
1936 Blaenau Ffestiniog
1937 Gwauncaegurwen
1938 Aberystwyth
1939 Llanelli

1940au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1940 Y Rhyl
1941-45 Bwlch yn ystod Yr Ail Ryfel Byd
1946 Corwen
1947 Treorci
1948 Llangefni
1949 Pontarddulais

1950au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1950 Wrecsam
1951 Abergwaun
1952 Machynlleth
1953 Maesteg
1954 Y Bala
1955 Abertridwr
1956 Caernarfon
1957 Rhydaman
1958 Yr Wyddgrug
1959 Llanbedr Pont Steffan

1960au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1960 Dolgellau
1961 Aberdâr
1962 Rhuthun
1963 Brynaman
1964 Porthmadog
1965 Caerdydd
1966 Caergybi
1967 Caerfyrddin
1968 Llanrwst
1969 Aberystwyth

1970au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1970 Llanidloes
1971 Abertawe
1972 Y Bala
1973 Pontypridd
1974 Y Rhyl
1975 Llanelli
1976 Porthaethwy
1977 Y Barri
1978 Llanelwedd
1979 Maesteg

1980au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1980 Abergele
1981 Castellnewydd Emlyn
1982 Pwllheli
1983 Aberafan
1984 Yr Wyddgrug
1985 Caerdydd
1986 Dyffryn Ogwen
1987 Merthyr Tudful
1988 Maldwyn
1989 Cwm Gwendraeth

1990au golygu

Blwyddyn Lleoliad
1990 Dyffryn Nantlle
1991 Taf Elai (Tonyrefail)
1992 Rhuthun
1993 Gorseinon
1994 Meirionnydd (Dolgellau)
1995 Bro'r Preseli (Boncath)[2]
1996 Bro Maelor (Wrecsam)
1997 Islwyn
1998 Llŷn ac Eifionydd (Penyberth ger Pwllheli)
1999 Llanbedr Pont Steffan

2000 golygu

Blwyddyn Lleoliad
2000 Bro Conwy
2001 Gohiriwyd o achos clefyd traed a'r genau. Cynhaliwyd Gŵyl yr Urdd, 2001
2002 Caerdydd a'r Fro
2003 Tawe, Nedd ac Afan ym Mharc Margam
2004 Ynys Môn - Llangefni
2005 Canolfan y Mileniwm - Caerdydd
2006 Sir Ddinbych - Rhuthun
2007 Sir Gâr[3]
2008 Sir Conwy, yn Llandudno
2009 Bae Caerdydd

2010au golygu

Blwyddyn Lleoliad
2010 Llannerch Aeron[4]
2011 Abertawe[5]
2012 Eryri (Glynllifon ger Caernarfon)[6]
2013 Sir Benfro (Boncath)[2]
2014 Meirionnydd (Y Bala)
2015 Caerffili a'r Cylch
2016 Sir y Fflint
2017 Pen-y-Bont, Taf, ac Elai
2018 Brycheiniog a Maesyfed (Llanelwedd)
2019 Caerdydd a'r Fro

2020au golygu

Blwyddyn Lleoliad
2020 Gohiriwyd oherwydd pandemig COVID-19.

Cynhaliwyd fersiwn ar-lein (Eisteddfod T) yn 2020 a 2021.[7][8]

2021
2022 Sir Dinbych
2023 Llanymddyfri
2024 Machynlleth

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 "Best of luck to everyone at the Urdd". Rags to Riches for schools. 27-05-2013. Cyrchwyd 31-05-2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  3. "Eisteddfod yr Urdd 200y". BBC Cymru Fyw. 2007.
  4. Llanerchaeron estate to host Urdd Eisteddfod BBC, 29 April 2010
  5. Eisteddfod 2011 Swansea at Urdd Gobaith Cymru
  6. Eisteddfod Eryri 2012 at Urdd Gobaith Cymru
  7. "Llwyddiant Eisteddfod T yn 'arloesol a hanesyddol'". BBC Cymru Fyw. 2020-05-30. Cyrchwyd 2021-02-11.
  8. "Yr Urdd yn cyhoeddi trefniadau Eisteddfod T 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-02-11. Cyrchwyd 2021-02-11.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu