Elias Owen

clerigwr a hynafiaethydd

Clerigwr, hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin oedd Elias Owen (2 Rhagfyr 183319 Mai 1899). Roedd yn frodor o blwyf Llandysilio ym Maldwyn, Powys.

Elias Owen
Ganwyd2 Rhagfyr 1833 Edit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 1899 Edit this on Wikidata
Llanyblodwel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig, hynafiaethydd, offeiriad Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Elias Owen yn 1833. Dechreuodd ei yrfa fel prifathro ysgol genedlaethol Llanllechid, Arfon, ar ôl graddio o Coleg y Drindod, Dulyn. Fe'i ordeinwyd yn 1872 a threuliodd gyfnod yn Llanwnnog ac wedyn Croesoswallt cyn symud i Efenechtyd yn Sir Ddinbych lle treuliodd weddill ei oes.

Ysgolheictod golygu

Cyhoeddodd ddwy gyfrol ar hynafiaethau yr hen Sir Gaernarfon (Arvona Antiqua) a Dyffryn Clwyd (The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd), ond fe'i cofir heddiw yn bennaf fel awdur y casgliad o chwedlau gwerin a thraddodiadau Cymreig a gyhoeddodd yn 1896, sef Welsh Folklore.

Ysgrifennodd draethawd ar lên gwerin ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1887, lle ceir hanes y Fuwch Frech a chwedlau eraill.

Plant golygu

Cafodd 13 o blant, gan gynnwys dau (os nad tri) aelod o Dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru:

Llyfryddiaeth golygu

  • Arvona Antiqua (1886)
  • The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd (1886)
  • Welsh Folklore (1896). Clasur sydd wedi cael ei ailargraffu sawl gwaith.

Cyfeiriadau golygu