Elizabeth Phillips Hughes

addysgydd

Athrawes ac addysgwraig oedd Elizabeth Phillips Hughes a Merch Myrddin yng Ngorsedd y Beirdd (12 Gorffennaf 185119 Rhagfyr 1925). Roedd yn flaenllaw iawn ei chred y dylai addysg Cymru fod yn wahanol i'r addysg yn Lloegr. Hi oedd yr unig ferch ar y pwyllgor a ddrafftiodd Siartr Prifysgol Cymru a derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol am ei chyfraniad.[1][2][3][4][5]

Elizabeth Phillips Hughes
FfugenwMerch Myrddin Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Gorffennaf 1851, 22 Mehefin 1851 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethaddysgwr, prifathro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cambridge Training College for Women
  • Coleg y Merched, Cheltenham Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, doctor honoris causa Edit this on Wikidata

Ei rhieni golygu

Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin, yn ferch i feddyg. Roedd ei mam o gyff Iddewig ac yn ferch i Samuel Levi, gemydd a banciwr a ddaeth i Gymru o Frankfurt-ar-Main. Ef oedd sefydlydd Banc Hwlffordd a Banc Milffwrdd.

Coleg golygu

Elizabeth oedd y ferch gyntaf i gael gradd dosbarth cyntaf yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, yn 1881, dair blynedd ar ôl i ferched gael yr hawl i sefyll arholiadau gradd. Ni fu ganddynt yr hawl i dderbyn eu graddau, fodd bynnag, hyd at 1948. Yr adeg honno roedd llawer o feddygon ac ysgolheigion yn mynnu na fedrai merched ymdopi ag addysg brifysgol, yn gorfforol nag yn feddyliol, ac roedd rhagfarn o'r fath yn gyffredin iawn yn erbyn menywod yr adeg honno. [6][7][8]

Bu'n Brifathrawes Neuadd Hughes, Caergrawnt, coleg hyfforddi, rhwng 1884 a 1899. Dychwelodd i Gymru gan weithio'n ddi-baid dros addysg i ferched.[9] gan gynnwys dros sefydlu Coleg Hyfforddi Morgannwg (i ferched, Coleg Hyfforddi y Barri) a sefydlwyd yn 1914.[10]

Bu farw yn 74 oed ar 19 Rhagfyr 1925.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb150732117. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://archives.library.wales/index.php/hughes-e-p-elizabeth-phillips-1851-1925-correspondence. dyddiad cyrchiad: 21 Rhagfyr 2020.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb150732117. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-PHI-1851. dyddiad cyrchiad: 13 Medi 2019. dyddiad cyhoeddi: 1953. Oxford Dictionary of National Biography. dyddiad cyrchiad: 14 Mai 2021.
  4. Dyddiad marw: Oxford Dictionary of National Biography. dyddiad cyrchiad: 14 Mai 2021.
  5. Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  6. Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  7. Galwedigaeth: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-PHI-1851. dyddiad cyrchiad: 13 Medi 2019. dyddiad cyhoeddi: 1953.
  8. Anrhydeddau: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  9. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  10. (Saesneg) Le May, G. H. L. (2008). "Hughes, Elizabeth Phillips (1851–1925), college head and promoter of education in Wales". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/37579.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)