Elizabeth Rees-Williams

actores a aned yn 1936

Cymdeithaswraig Gymreig yw Joan Elizabeth Rees-Williams, Yr Anrh. Mrs Aitken (ganed 1 Mai 1936). Roedd ganddi ddau ran mewn ffilm yn y 1940au cynnar.[1]

Elizabeth Rees-Williams
Ganwyd1 Mai 1936 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
TadDavid Rees-Williams, Barwn 1af Ogwr Edit this on Wikidata
MamConstance Wills Edit this on Wikidata
PriodRichard Harris, Jonathan Aitken, Rex Harrison, Peter Michael Aitken Edit this on Wikidata
PlantDamian Harris, Jared Harris, Jamie Harris Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd, yn ferch i Alice Alexandra Constance (née Wills) a'r gwleidydd David Rees-Williams, Barwn 1af Ogwr. Mae ganddi dri o blant o'i phriodas gyntaf gydag o leiaf wyth o lysblant o'r priodasau hwyrach.

Priodasau a phlant golygu

Mae hi wedi bod yn briod bedair gwaith.

Priododd yr actor Richard Harris yn 1957, a chafodd dri mab gydag e (Jared Harris, Jamie Harris, a Damian Harris). Ysgarodd y cwpl yn 1969. Syr Rex Harrison oedd ei hail ŵr o 1971 i 1975, a chafodd ddau fab (Noel Harrison a Carey Harrison). Ei trydydd gŵr oedd Peter Michael Aitken gan briodi yn 1980 ac ysgaru yn 1985. Mae gan Aitken ddau fab, (James a Jason Aitken) ac mae'n gefnder i'w gŵr presennol, Jonathan.

Jonathan Aitken yw ei gŵr presennol, ac fe briododd y ddau ar 25 Mehefin 2003. Mae gan Aitken blant o'i briodas gyntaf - tair merch ac un mab,[2] (Alexandra Aitken, Victoria Aitken, Petrina Khashoggi, a William Aitken).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Elizabeth Rees
  2. Ridley, Yvonne (10 January 1999). "Family rallies round Aitken's secret Khashoggi love child". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 March 2010.
  3. Edwardes, Charlotte; Syal, Rajeev (12 Awst 2001). "Aitken children in fight to keep share of estate". The Daily Telegraph. London. More than one of |last1= a |last= specified (help); More than one of |first1= a |first= specified (help)