Elsie Edith Bowerman

cyfreithwraig ac ymgyrchydd dros hawliau merched

Ffeminist a chyfreithwraig o Loegr oedd Elsie Edith Bowerman (18 Rhagfyr 1889 - 18 Hydref 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a swffragét, a hefyd am gael ei hachub, wedi i RMS Titanic suddo.

Elsie Edith Bowerman
Ganwyd18 Rhagfyr 1889 Edit this on Wikidata
Royal Tunbridge Wells Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Hailsham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyfreithiwr, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUndeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Royal Tunbridge Wells, Lloegr a bu farw yn Hailsham, Dwyrain Sussex o drawiad ar y galon.[1][2]

Roedd yn ferch i Edith Martha Barber a'i gŵr William Bowerman. Bu farw ei thad pan oedd yn 5 oed.[3] Aeth i Ysgol Abaty Wycombe yn 11 oed yn 1901, lle daeth dan ddylanwad Frances Dove; yn ddiweddarach ysgrifennodd Elsie Bowerman fywgraffiad iddi. Gadawodd yn 1907 i dreulio amser ym Mharis cyn mynd i Goleg Girton Caergrawnt. Heb unrhyw anogaeth gan y coleg, trefnodd sgyrsiau gan aelodau Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (y WSPU). [4]

Y Titanic golygu

Ar 10 Ebrill 1912 gadawodd Elsie Bowerman a'i mam Edith ar fwrdd yr RMS Titanic, gan adael Southampton ar docyn Dosbarth Cyntaf; eu hystafell oedd caban 33 ar ddec E. Y bwriad oedd ymweld ag America a Chanada i weld perthnasau ei thad yng Ngogledd America. Fe'u hachubwyd ar fad achub Rhif 6.[3]

Ymgyrchydd golygu

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1924, cafodd ei derbyn gan y bar. Hi oedd y bargyfreithwraig cyntaf yn yr Old Bailey a gweithiodd oddi yno hyd at 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd yng Ngwasanaethau Gwirfoddol y Merched ac yna gyda'r BBC. Yn 1947 aeth i'r Unol Daleithiau America i gynorthwyo gyda Chomisiwn y Cenhedloedd Unedig ar statws y fenyw. Wedi dychwelyd i Loegr bu'n byw gyda'i mam yn St Leonards-on-Sea ac yna i Hailsham lle bu farw o drawiad ar y galon.

Anrhydeddau golygu


Llyfr a gyhoeddwyd ganddi golygu

  • Stands there a School; bywgraffiad i Dame Frances Dove, D.B.E., Sefydlydd Wycombe Abbey School (1965).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: "Elsie Bowerman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Dyddiad marw: "Elsie Bowerman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Bowerman, Elsie Edith (1889â€"1973), suffragette and lawyer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/63838. Cyrchwyd 2019-01-20.
  4. Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/