Elystan Glodrydd

tad" y pumed o lwythau brenhinol Cymru

Sefydlydd traddodiadol y pumed o Lwythau Brenhinol Cymru, yn ôl yr Achau Cymreig, oedd Elystan Glodrydd (bu farw tua 1010).

Elystan Glodrydd
Ganwyd965 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1010 Edit this on Wikidata
Y Trallwng Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadCuhelyn ab Ifor ap Severus ap Cydifor Wynwyn Edit this on Wikidata
PriodGwenllian Edit this on Wikidata
PlantCadwgan ab Elystan, Angharad ferch Elystan Glodrhydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ychydig iawn a wyddys am Elystan ei hun, ond roedd ei ddisgynyddion, yn cynnwys Cadwallon ap Madog, yn rheoli rhan o ardal Rhwng Gwy a Hafren yng nghanolbarth Cymru. Mae un o'r achau cynnar yn ei gysylltu â Gwrtheyrnion.[1] Roedd disgynyddion eraill iddo yn teyrnasu ym Maelienydd ac Elfael.[2] gyda changen arall yn rheoli Cedewain.[3] Gorweddai'r tiriogaethau hyn i gyd yn y rhan o Gymru a elwid yn Rhwng Gwy a Hafren yn yr Oesoedd Canol ac sy'n cyfateb yn fras i ardaloedd Maldwyn a Maesyfed ym Mhowys heddiw.

Mae un o'r achau Cymreig yn cofnodi bod Elystan yn gorwedd yn y seithfed ach o Iorwerth Hirflawdd,[4] pennaeth neu frenin o ardal Rhwng Gwy a Hafren a fu farw tua diwedd y 9g, yn ôl pob tebyg.

Roedd Owain Cyfeiliog (c.1130-1197), y bardd-dywysog o Bowys yn fab i Gruffudd ap Maredudd a'i wraig Gwerful ferch Gwrgenau, o linach Elystan Glodrydd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. P. C. Bartrum, Early Welsh Genealogical Tracts (Caerdydd, 1966), tud. 104.
  2. Bartrum, op. cit., tud. 104.
  3. Bartrum, op. cit., p. 105.
  4. Bartrum, op. cit., p. 104.