Gweithred gan wladwriaeth neu gyfundrefn arall i rwystro ei phobl, yn rhannol neu'n gyfangwbl, rhag cynnal cysylltiadau economaidd ayyb â gwlad neu ranbarth arall yw embargo.

Mae yna wahaniaeth rhwng embargo a gwarchae (blockade). Dan gyfraith ryngwladol mae'r olaf yn weithred rhyfel yn erbyn gwlad arall tra bod embargo yn cael ei osod gan awdurdodau un wlad (neu grŵp o wledydd) i rwystro eu trigolion rhag masnachu â gwlad arall neu fynd ag unrhyw beth yno. Gall pwrpas embargo amrywio. Weithiau mae'n achos o wahardd masnach yn gyffredinol ond gallai hefyd fod yn embargo cyfyngedig, e.e. masnach arfau neu olew, a hynny er mwyn rhoi pwysau ar wlad dan yr embargo. Mae'r gwahaniaeth yn gallu bod yn denau. Gall embargo cyffredinol (fel yr un ar Irac yn y cyfnod a arweiniodd at Ryfel Irac neu'r embargo Israelaidd ar Lain Gaza) gael yr un effaith yn union â gwarchae (blockade).

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.