Emlyn (cantref)

cantref yng ngogledd teyrnas Dyfed

Roedd Emlyn yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o gwmwd annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach.

Lleolir Emlyn i'r de o afon Teifi yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref Is Aeron, i'r dwyrain mae'n ffinio â'r Cantref Mawr, i'r de â chwmwd Elfed, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag afon Cuch yn eu gwahanu:

Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf y cantref. Mae ei ganolfan wleidyddol cynnar yn anhysbys. Yn ddiweddarach tyfodd Castellnewydd Emlyn yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Normaniaid.

Cysylltir y cantref â'r Mabinogi : mae Glyn Cuch, lle mae Pwyll yn cwrdd ag Arawn brenin Annwn, yn gorwedd yng nghwmwd Emlyn Is Cuch.

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.