Emma Davies Jones

Seiclwraig proffesiynol Seisnig ydy Emma Davies Jones (enw cyn priodi Emma Davies, ganwyd 4 Hydref 1978).

Emma Davies Jones
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnEmma Davies Jones
Dyddiad geni (1978-10-04) 4 Hydref 1978 (45 oed)
Taldra1.78m (5'10")
Pwysau64kg (141lb)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a trac
RôlReidiwr
Math seiclwrPursuit
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2006–2007
2008
Dames Vlaanderen
Team Swift
Prif gampau
Gemau'r Gymanwlad
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar
8 Tachwedd 2007

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Emma Davies yn nhref Knutsford, Swydd Gaer. Dechreuodd seiclo yn 1990, yn 12 oed, bu sôn iddi ddisgyn oddi ar ei beic ar ei reid gyntaf gan wneud i Harry Hall addo i beidio a dweud wrth ei rhieni rhag ofn iddynt ei hatal rhag cymryd rhan.[1] Mwynhaodd y profiad gymaint aeth ymlaen i rasio a chystadlodd dros Brydain ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd yn 1995 ac 1996. Newidiodd yn 1997 o fod yn sbrintwraig i fod yn reidiwr dygner ar y trac. Fe ddatblygodd ei reidio, ac adlewyrchodd ei chanlyniadau ei haeddfediad. Dewiswyd hi i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn 2000.

Priododd Jason Jones ym mis Medi 2005, a mis yn ddiweddarach cafodd ddamwain drwg hit and run ym Manceinion.[2] Torrodd ei chefn yn y ddamwain, a bu'n poeni na fedrai reidio'i beic eto, ond ail-gychwynnodd ei hymarfer ar y beic ar y 10 Ionawr 2006.[3] Ar 20 Mawrth yr un flwyddyn reidiodd y ras Pursuit i ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne, Awstralia. Yn 2006 a 2007 bu Emma yn byw ac yn ymarfer gyda'i thîm yng Ngwlad Belg. Mae wedi arwyddo cytundeb gyda Team Swift ar gyfer tymor rasio 2008. Bu'n byw yn Alsager, Swydd Stafford am gyfnod on erbyn hyn mae Emma'n byw yn Llanychan ger Rhuthun.

Yn dilyn yr anaf i'w chefn, sefydlodd Emma elusen, Emma's Spinal Hope, er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil i anafiadau sbinol.[4]

Canlyniadau golygu

Trac golygu

1998
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1999
2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
5ed Pursuit, Pencampwriaethau Trac Ewrop Dan 23
2000
2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2001
1af   Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Pursuit, Cymal 1, Colombia, Cwpan y Byd Trac UCI
5ed Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd UCI
2002
1af   Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
1af Pursuit, Cymal 1, Mecsico, Cwpan y Byd Trac UCI
4ydd Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd UCI
4ydd Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
2003
1af   Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af   Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2004
1af   Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
1af   Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
2il Pursuit, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd Trac UCI
3ydd Ras Scratch, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd Trac UCI
3ydd Pursuit, Cymal Mecsico, Cwpan y Byd Trac UCI
4ydd Pursuit, Cymal Sydney, Cwpan y Byd Trac UCI
4ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2005
2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
2006
3ydd   Pursuit, Gemau'r Gymanwlad

Ffordd golygu

1998
1af Ras Ryngwladol Merched Ynys Manaw
2004
4ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2005
1af Wortel-Horzvagel GP
2il Cymal 4 Tour De L'Aude
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dyddiadur Emma ar ei gwefan Swyddogol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-12-08.
  2. Davies-Jones injured in collision BBC 14 Hydref 2005
  3. "Gwefan Swyddogol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-19. Cyrchwyd 2007-12-08.
  4. "Gwybodaeth Elusen Emma". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-09. Cyrchwyd 2007-12-08.